'Diolch, Dad' - gan blant Ysgol Pen-y-Bryn, Bethesda

  • Cyhoeddwyd

Ar Sul y Tadau, gwyliwch ddisgyblion Ysgol Pen-y-Bryn, Bethesda yn darllen cerdd ddoniol gan Fardd Plant Cymru, Gruffudd Owen:

Disgrifiad,

Criw ysgol Pen-y-Bryn, Bethesda yn darllen cerdd gan y Prifardd Gruffudd Eifion Owen

Sul y Tadau

Am bob Pizza nes di losgi,

am roi strestsh ar ambell stori

ac am ganmol doniau ciami,

diolch Dad.

Am newid clwt a gwthio pram

am gofio rhoi 'day off' i Mam

am adael inni fyw ar Jam;

diolch, Dad.

Am y llu o jocs echrydus

a'r sesiynnau cosi campus

nes i mi bron bi-pi'n fy nhrywsus;

diolch Dad.

Am chwyrnu'n uchel dros y lle,

am brynu cacen siop i de,

am ddangos inni be' 'di be',

diolch, Dad.

Am bob cerdyn nas danfonwyd

a phob ffenest tŷ a chwalwyd

a phob dim nas gwerthfawrogwyd,

sori, Dad.

Mae hon yn swydd heb glod na bri'

na lot o barch, fel gwyddost ti,

ond ti'n dal yno'n gefn i ni;

diolch, Dad.

Am annog inni dynny'n groes

a gadael inni dynnu coes,

am ddewis gneud y job am oes,

diolch, Dad.

Am bob awr o rwdlian gwirion

a thrwsio beics a thrwsio calon

ac am nad ydw i'n ddeud o ddigon,

diolch, Dad.

Hefyd o ddiddordeb: