£4.75m tuag at sicrhau Archif Ddarlledu Genedlaethol

  • Cyhoeddwyd
Llyfrgell Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yr archif yn cael ei chartrefu mewn canolfan yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth

Mae'r Loteri Genedlaethol wedi cyhoeddi grant o £4.75m ar gyfer creu Archif Ddarlledu Genedlaethol yn Aberystwyth.

Bydd yr archif - cynllun gwerth £9m - mewn canolfan yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Roedd pryder ar un adeg na fyddai'r prosiect yn digwydd wedi i Lywodraeth Cymru ddatgan nad oeddynt yn fodlon cyfrannu £1m.

Ym mis Chwefror eleni, ar ôl newidiadau i gynllun busnes y Llyfrgell Genedlaethol, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gadarnhau y byddai'r arian ar gael wedi'r cwbl.

Yn y pendraw fe fydd y ganolfan yn gartref i tua 240,000 awr o ddeunydd radio a theledu o Gymru sy'n olrhain bron i 100 mlynedd o ddarlledu.

Bydd y deunydd BBC yn cael ei ychwanegu at archif bresennol ITV Cymru yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Y bwriad yw cadw'r deunydd mewn storfa bwrpasol 1,000 metr sgwâr, a bydd hefyd ar gael i'r cyhoedd mewn pedwar lleoliad arall ledled Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd pryder ar un adeg na fyddai'r cynllun yn gweld golau dydd

Dywedodd cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Richard Bellamy fod archif BBC Cymru yn cofnodi bron i ganrif o fywyd Cymru yn ei holl amrywiaeth.

"Ynghyd ag archifau ITV Wales sydd eisoes yn y Llyfrgell Genedlaethol, bydd y prosiect hynod bwysig hwn yn chwarae rhan allweddol wrth gasglu hanes darlledu ein cenedl a'i wneud yn hygyrch i'r cyhoedd am y tro cyntaf erioed," meddai.

Mae prif elfennau'r prosiect yn cynnwys:

  • Dros 180,000 eitem sy'n cwmpasu'r Ail Ryfel Byd, llwyddiannau chwaraeon eiconig, trychineb Aberfan, ymgyrch datganoli a Streic y Glowyr;

  • Gweithgareddau mewn 10 ardal wahanol yn cynnwys dros 300 digwyddiad rhyngweithiol i hybu dysgu digidol ar gyfer pobl ifanc ac iechyd a lles ar gyfer pobl hŷn;

  • Darnau sy'n dilyn datblygiad yr iaith Gymraeg a chynnyrch awduron fel Dylan Thomas a Saunders Lewis, yn ogystal â recordiadau o ddarllediadau Cymraeg cynnar;

  • Dros 1,500 o wirfoddolwyr yn helpu catalogio'r deunydd archif helaeth yn ogystal â datblygu gweithgareddau cymunedol;

  • Sefydlu canolfannau clipiau symudol gyda'r nod o wneud y wybodaeth yn fwy hygyrch i gynulleidfa ehangach.

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Pedr ap Llwyd ddisgrifio'r prosiect fel un "arloesol"

Dywedodd Prif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Pedr ap Llwyd mai'r "prosiect arloesol hwn fydd yn sicrhau y bydd archif BBC Cymru ar gael i'r cyhoedd".

Ychwanegodd cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies: "Pa ffordd well i ddathlu pen-blwydd y BBC yn 100 oed yn 2022 nag agor y ffynhonnell anhygoel hon i ysgolion, colegau a chymunedau ledled Cymru."