Tro pedol ar brosiect Archif Ddarlledu Genedlaethol

  • Cyhoeddwyd
Dafydd Elis-Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas ei fod yn falch fod y prosiect yn gallu "symud yn ei flaen"

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau cyllid ar gyfer datblygu Archif Ddarlledu Genedlaethol i Gymru.

Roedd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas wedi dweud na fyddai Llywodraeth Cymru'n rhoi cyllid tuag at y cynllun.

Ond maen nhw bellach wedi cadarnhau cymorth o £1m i'r prosiect.

Roedd y ganolfan gwerth £9m yn y Llyfrgell Genedlaethol i fod i ddod yn gartref i 160,000 o recordiadau o archif raglenni BBC Cymru.

Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas ei fod yn falch fod y prosiect yn gallu "symud yn ei flaen".

'Gwerthfawrogi ymdrechion'

Ychwanegodd yr Arglwydd Elis-Thomas: "Mae Llywodraeth Cymru wedi mynegi ei chefnogaeth yn gyson ar gyfer uchelgais y Llyfrgell Genedlaethol i sefydlu archif ddarlledu genedlaethol.

"Rwy'n gwerthfawrogi'r ymdrechion a wnaed dros yr wythnosau diwethaf i ddatrys y problemau a'r pryderon a oedd angen sylw, ac rwy'n falch iawn y gall y prosiect symud yn ei flaen."

Disgrifiad o’r llun,

Y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth fydd cartref yr Archif Ddarlledu Genedlaethol

Er mai rhaglenni BBC Cymru fyddai mwyafrif cynnwys yr archif arfaethedig, roedd hefyd disgwyl iddi gynnwys deunydd o raglenni S4C ac ITV Cymru.

Byddai'r cynllun yn caniatáu i archif presennol BBC Cymru gael ei gadw pan fydd y darlledwr yn gadael ei bencadlys presennol yng Nghaerdydd.

Byddai'r cyhoedd yn medru gweld y deunydd yn ddigidol mewn canolfannau gwylio arbennig yn Aberystwyth, Caerdydd, Caerfyrddin a Wrecsam.

Ymateb Llyfrgell a BBC

Ychwanegodd Llywydd y Llyfrgell Genedlaethol, Rhodri Glyn Thomas: "Rydym yn falch iawn bod y Dirprwy Weinidog wedi cytuno i gefnogi'r prosiect arloesol hwn, sydd yn golygu y gallwn bellach gyflwyno ein cais terfynol i Gronfa Dreftadaeth y Loteri.

"Fel cartref casgliadau helaeth o ddelweddau sain a delweddau symudol, a chyda deunydd gan ITV Cymru eisoes yn y Llyfrgell, rydym yn bwriadu diogelu'r ffynhonnell hanfodol hon o dreftadaeth ein cenedl ar gyfer cenedlaethau heddiw a'r dyfodol.

"Rydym yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth y Loteri Genedlaethol i ddatblygu ein cynlluniau ac i BBC Cymru Wales am eu haelioni wrth roi'r archif i'r Llyfrgell."

Dywedodd Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru, ei fod yn "hynod falch o weld y prosiect cyffrous ac arloesol hwn yn symud i'r cam nesaf".

"Drwy weithio gyda'n partneriaid bydd yr Archif Ddarlledu Genedlaethol yn sicrhau bod trysorau'r gorffennol ar gael i bawb am flynyddoedd maith," meddai.

Dadansoddiad Gohebydd Celfyddydau a Chyfryngau BBC Cymru, Huw Thomas

Yn ystod y drafodaeth gyhoeddus am greu archif ddarlledu newydd, mae sgyrsiau preifat wedi canolbwyntio'n gyson ar bersonoliaethau sy'n ymwneud â'r mater.

Mae'r gweinidog diwylliant a llywydd y llyfrgell yn gyn-gydweithwyr, bu'r ddau yn aelodau cynulliad yn cynrychioli Plaid Cymru.

Bellach yn AC annibynnol ac yn aelod o'r llywodraeth, mae'r Arglwydd Elis-Thomas yn goruchwylio'r arian cyhoeddus sy'n cael ei glustnodi i'r Llyfrgell Genedlaethol.

Ond mae'r ffrae yn fwy eang na'r berthynas bersonol hon. Dwi wedi clywed bod 'na bryderon gwirioneddol ymhlith swyddogion y llywodraeth am ddyfodol ariannol y llyfrgell.

Does dim manylion am unrhyw newidiadau i gyllideb y llyfrgell yn y dyfodol fyddai'n dylanwadu ar y llywodraeth i ariannu'r prosiect.

Ni fydd y BBC yn cynyddu ei gyfraniad yn y dyfodol ar gyfer gwaith cynnal a chadw a hawlfraint, er gwaetha'r ffaith bod yr Arglwydd Elis-Thomas wedi galw'n gyhoeddus ar y gorfforaeth i wneud.

Mewn ychydig wythnosau mae'r cynlluniau ar gyfer yr archif ddarlledu wedi newid o fod ar stop i sefyllfa sy'n symud ymlaen.

Felly er gwaethaf unrhyw fygythiadau gwag yn gyhoeddus, mae'r trafodaethau preifat wedi sicrhau bod y cyfleuster gam yn nes at gael ei ddatblygu.