Dewis artist i greu cerflun o'r athrawes Betty Campbell

  • Cyhoeddwyd
EVE SHEPHERD
Disgrifiad o’r llun,

Dydy Eve Shepherd ddim yn datgelu dyluniad y cerflun o Betty Campbell am y tro

Mae menyw wedi cael ei phenodi i greu'r cerflun cyntaf o fenyw Cymraeg yng Nghymru.

Cafodd Eve Shepherd ei dewis i lunio cerflun o Betty Campbell yn Sgwâr Canolog Caerdydd - a hynny gan banel oedd yn cynnwys dau o blant Ms Campbell.

Yn wreiddiol o Sheffield, dechreuodd ei gyrfa fel cerflunydd yn 17 oed gydag Anthony Bennett, cyn mynd ymlaen i weithio i gwmni Scenic Route.

Dywedodd arweinydd Cyngor Caerdydd bod hi'n "hen bryd i ni gael cerflun o fenyw Gymraeg go-iawn".

Daeth Ms Shepherd i'r brig ymysg tair o gerflunwyr eraill, fel rhan o gynllun Merched Mawreddog i weld cerflun cyntaf o fenyw benodol mewn lle cyhoeddus yn yr awyr agored yng Nghymru.

Disgrifiad o’r llun,

Fe ddysgodd Betty Campbell ddisgyblion yn Nhre-biwt am 28 o flynyddoedd

Menyw o ardal Tre-biwt yng Nghaerdydd fydd Ms Shepherd yn ei cherflunio - sef y ferch gyntaf yng Nghymru heb fod yn wyn ei chroen i fod yn bennaeth ysgol, ac un o hyrwyddwyr treftadaeth amlddiwylliannol ei chenedl.

Roedd plant Ms Campbell, Elaine Clarke a Simon Campbell, ar y panel oedd yn dewis y cerflunydd.

Dywedodd Ms Clarke: "Mae cynllun Eve yn cynrychioli ein mam mewn ffordd sy'n sicrhau bydd ei hetifeddiaeth ac ysbrydoliaeth yn fyw am genedlaethau i ddod."

Disgrifiad o’r llun,

Eve Shepherd yn cyflwyno ei cherflun i'r Athro Stephen Hawking mewn cynhadledd yn Cape Town yn 2008

Mae gwaith Ms Shepherd wedi cael ei arddangos yn Ne America, Yr Aifft, Israel, Sweden, Singapore a'r Almaen.

Cafodd ei chomisiynu i gynhyrchu cerflun o'r Athro Stephen Hawking - un ar gyfer Prifysgol Caergrawnt ac un arall ar gyfer Prifysgol Cape Town.

'Annog i fod yn uchelgeisiol'

Wrth ymateb i'r newyddion, dywedodd Ms Shepherd: "Cefais fy nenu at Betty fel person o ysbryd aruthrol ac am ei gwaith anhygoel.

"Roedd hi'n ysbrydoliaeth i lawer ac fe wnaeth ei hysbryd fy annog fel artist i fod yn uchelgeisiol wrth ddylunio'r cerflun."

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyfraniad o £100,000 ar gyfer y cynllun.

Dywedodd llefarydd y bydd "cyllid Llywodraeth Cymru yn galluogi i'r cerfluniau hyn a cherfluniau eraill gael eu codi ledled Cymru yn y blynyddoedd nesaf i fynd i'r afael â'r anghydbwysedd rhwng menywod a dynion".