Carcharu tad a mab am gadw dyn fel caethwas
- Cyhoeddwyd
Mae dau ddyn wedi cael eu carcharu am gadw unigolyn "bregus" fel caethwas am bron i ddwy flynedd a hanner.
Cafodd y dyn, oedd yn 18 oed ar ddechrau ei gyfnod fel caethwas, ei gadw ar safle metel sgrap ger Abertawe, lle'r oedd yn cael ei guro yn rheolaidd a'i orfodi i weithio oriau hir.
Mae Anthony Baker, 49, wedi cael ei ddedfrydu i 10 mlynedd dan glo ar ôl pledio'n euog i orfodi'r dyn i weithio iddo rhwng Hydref 2016 ac Ionawr 2019.
Cafodd ei fab, Harvey, 19 oed, ei ddedfrydu i chwe blynedd mewn sefydliad ar gyfer troseddwyr ifanc.
Clywodd Llys y Goron Abertawe bod staff meddygol wedi disgrifio'r dyn fel rhywun oedd wedi dod o "wersyll carchar".
Dywedodd yr erlynydd, John Hipkin fod Baker a'i fab yn curo'r dyn yn gyson os oeddynt yn credu ei fod wedi "gwneud rhywbeth o'i le".
"Byddai un ohonynt yn gafael yn ei freichiau tu ôl i'w gefn tra bo'r llall yn ei daro sawl tro," meddai.
Ychwanegodd bod bariau metel wedi cael eu defnyddio yn ystod rhai o'r ymosodiadau "dyddiol".
'Sadistaidd'
Dywedodd y dioddefwr ei fod yn derbyn un pryd o fwyd bob dydd, boed hynny yn "dun o gawl neu ffa pob" neu "bwyd o'r becws oedd wedi mynd yn hen".
Yn ôl y barnwr Paul Thomas, roedd ymddygiad Anthony a Harvey Baker yn "sadistaidd".
"Byddai hi'n ofnadwy pe bai chi wedi trin un o'ch anifeiliaid fel hyn, heb sôn am ddyn yn ei arddegau," meddai.
"Roedd yn rhaid iddo fyw mewn amgylchiadau oedd ddim yn addas ar gyfer person.
"Rhyngoch chi fe wnaethoch chi ei daro gydag unrhyw beth oedd wrth law - polion metel, peipiau, cyllyll - rydw i wedi gweld lluniau ac maen nhw'n ddychrynllyd."
Clywodd y llys bod y dyn wedi treulio amser yn yr ysbyty ar sawl achlysur ond ei fod wedi dweud celwydd wrth y staff ynglŷn â tharddiad yr anafiadau.
Ar un achlysur fe ddywedodd wrth y meddygon ei fod wedi cael ei "gicio gan geffyl."
Ychwanegodd Mr Hipkin bod y dyn yn ei chael hi'n anodd siarad ar ôl i'r heddlu ddod o hyd iddo gan fod ei ên wedi torri mewn sawl man.
Fe nododd swyddogion bod y dyn "yn fudr a doedd ei ddillad ddim yn ei ffitio".
Dywedodd Mr Thomas ei bod hi'n debygol na fyddai'r dioddefwr "byth yn dod dros yr hyn ddigwyddodd iddo'n llawn" a'i fod yn debygol o ddioddef o anhwylder straen wedi trawma (PTSD).
Yn ogystal â'r ddedfryd o 10 mlynedd yn y carchar, bydd Anthony Baker yn treulio pum mlynedd ar drwydded ac yn derbyn gorchymyn gwrth-gaethwasiaeth am 20 mlynedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2019