Barn ranedig yn y dref frenhinol
- Cyhoeddwyd

Hanner can mlynedd ers seremoni arwisgo Tywysog Cymru yng Nghaernarfon mae rhai yn holi a fyddai'r dref yn croesawu digwyddiad o'r fath eto.
Mae'r maer presennol, Tudor Owen, yn dweud y byddai o blaid trydydd arwisgiad oherwydd y budd economaidd.
Ond dywed AS Arfon Hywel Williams fod ganddo "bryderon," gydag eraill yn gwrthwynebu yn chwyrn.
Fe wnaeth yr arwisgiad ar 1 Gorffennaf 1969 greu rhaniadau yn y dref a thu hwnt.

Cafodd y Tywysog Charles ei arwisgo yng Nghastell Caernarfon yn 1969
Roedd miloedd ar strydoedd Caernarfon i groesawu'r tywysog ifanc - yn eu plith, Bobby Haines.
"Rwy'n ystyried fy hunan yn lwcus iawn i fod yn y castell y diwrnod hwnnw, dim llawer o bobl leol gafodd fynd mewn.
"Roedd o'n ddiwrnod bendigedig i Gaernarfon ond dwi ddim yn credu y gwnawn ni weld arwisgiad arall yn y dref."
Mae eraill yn gobeithio pe bai Tywysog William yn dod yn Dywysog Cymru y bydd yna arwisgiad.
Mae maer Caernarfon Tudor Owen yn gefnogol i'r syniad.

Mae Tudor Owen yn dweud y byddai Arwisgaid arall yn dod a budd
Dywedodd: "Rwy'n aelod o Blaid Cymru ond dwi ddim yn erbyn unrhyw beth sy'n dod â budd i Gaernarfon.
"Rwy'n siŵr byddai pobl Caernarfon wrth eu bodd yn gweld arwisgiad arall."
Ond dyw'r AS lleol Hywel Williams ddim mor bendant.
"Mae gennyf gryn dipyn o bryder am natur wleidyddol unrhyw arwisgiad o gofio profiadau 1969 pan oedd yn wleidyddol iawn, a byddai'n beth drwg i wneud y teulu brenhinol yn destun ffrae wleidyddol."

Eirian James: 'Angen symud ymlaen'
Gobaith Eirian James, dynes fusnes leol, yw bod y dref wedi "symud ymlaen" ers dyddiau'r arwisgiad , ac y dylai ganolbwyntio yn fwy ar ei Chymreictod.
"Mae'n beth rhyfedd i feddwl am gael castell brenhinol gyda'r iaith Gymraeg mor ganolog i fywyd dyddiol, ond mae hynny yn dweud rhywfaint am beth sy'n ei wneud yn unigryw.
"Mae'r castell yn adeilad eiconig, ond USP y dref erbyn hyn yw eich bod yn gallu mwynhau diwylliant Cymraeg a Chymreig ar ei orau. "
'Creu rhwygiadau'
Yn ôl Dr Euryn Roberts o adran Hanes Prifysgol Bangor, yr arwisgiad oedd y digwyddiad wnaeth mwyaf o argraff ryngwladol yn hanes Cymru ond ychwanegodd y byddai arwisgiad arall yn llawn problemau.
"Byddai rhywun yn disgwyl y bydd William yn dod yn Dywysog Cymru wrth i Charles gael ei goroni yn frenin. Does yna ddim rhaid fod yna arwisgiad, ond fe fyddai rhai galw am un.
"Byddai'r rhai sydd yn ymwneud a brandio Cymru yn rhyngwladol am achub ar y cyfle, ...ond fe fyddai'n creu rhwygiadau o fewn Cymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mawrth 2019