Addysgu plant am beryglon cynnau tân bwriadol
- Cyhoeddwyd
Mae plant yng ngogledd Cymru wedi bod yn cymryd rhan mewn gweithdai theatr sy'n eu haddysgu am ganlyniadau difrifol tanau gwair.
Yn ôl ffigyrau diweddar roedd 75% o gynnydd mewn tanau mynydd yng Nghymru y llynedd - ac roedd 2,850 o'r tanau wedi cael eu cynnau'n fwriadol yn ystod cyfnod o 12 mis.
Dywed trefnwyr y gweithdy fod cynlluniau drama yn llwyddo'n dda i drosglwyddo neges.
Mae drama deithiol prosiect cyfiawnder ieuenctid Theatr Clwyd yn gweithio mewn partneriaeth â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru.
Y bwriad yw cyfleu y difrod y mae tân yn gallu ei wneud a siarad yn gyffredinol am droseddu gyda phlant.
Dywed Emyr John sy'n rhan o'r prosiect: "Yn y stori hon mae Ifan wedi bod yn chwarae gyda'i ffrindiau, mae o wedi bod yn creu fideos ar gyfer YouTube ger hen chwarel a drwy greu pranc mae 'na dân wedi cynnau.
"Yn sydyn iawn mae'n mynd allan o reolaeth, ac wedyn mae'r gynulleidfa yn gorfod dod i gasgliad a ydy Ifan yn euog neu'n ddieuog."
Mae'r prosiect yn ymweld â 20 o ysgolion ar draws y gogledd.
'Cael y plant i feddwl o flaen llaw'
Dywedodd y trefnwyr bod rhaglenni addysg fel hyn wedi bod yn effeithiol a'r bwriad yw creu ymwybyddiaeth a lleihau y tanau bwriadol yng Nghymru.
Yn 2015 cafodd plant mor ifanc ag 11 eu harestio wedi cyfres o danau yng nghymoedd y Rhondda, ond y flwyddyn ar ôl hynny roedd y nifer wedi haneru.
Y gred yw bod ymweliad gan yr heddlu a diffoddwyr tân ag ysgolion wedi cyfrannu at y gostyngiad.
Ychwanegodd Emyr John: "'Da ni ddim yn dweud bod pob person ifanc sy'n mynd allan yn cynnau tân. Be 'da ni'n ceisio ei gyfleu yw y gall un sefyllfa arwain at y llall.
"Gall rhywbeth sy'n ymddangos fel pranc i ddechrau fynd allan o reolaeth - be' 'da ni'n geisio ei wneud ydy cael y plant i feddwl o flaen llaw.
"'Da ni'n gobeithio fod y cynhyrchiad yn mynd i gael effaith - os 'da ni'n cael un person ifanc i feddwl cyn gwneud rhywbeth oherwydd ei fod wedi'i ysbrydoli gan ein gweithdy - yna 'da ni wedi llwyddo."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mai 2019