Cyngor yn atal cynnig i ddatblygu safle arfordirol

  • Cyhoeddwyd
Tir ger y West Cross Inn yn y MwmbwlsFfynhonnell y llun, Google

Mae cynigion i ddatblygu tir gwyrdd arfordirol yn Abertawe wedi cael eu rhoi o'r neilltu gan Gyngor Abertawe.

Roedd ardal tafarn y West Cross i gyfeiriad Y Mwmbwls ymhlith pum safle oedd yn cael eu hystyried ar gyfer eu datblygu.

Yn ôl dirprwy arweinydd y cyngor, Clive Lloyd, mae'r awdurdod bellach yn chwilio am syniadau llai uchelgeisiol i ddefnyddio'r ardal er budd y gymuned.

Mae cannoedd o bobl wedi arwyddo deiseb yn gwrthwynebu adeiladu ar flaen traeth y Mwmbwls.

'Sensitifrwydd'

"O ystyried y sensitifrwydd ynghlwm â'r safle ochor Y Mwmbwls o dafarn West Cross Inn, rydym yn bwriadu peidio bwrw ymlaen gyda'r safle yma, er bydden ni'n croesawu unrhyw syniadau ar raddfa fechan o ran defnydd cymunedol o'r ardal hyfryd yma," meddai Mr Lloyd.

"Rydym yn fodlon iawn gyda'r ffordd y mae'r cyhoedd wedi ymgymryd â'r ymgynghoriad ar y safleoedd blaen traeth.

"Rydym wedi cael adborth gwych a llawer o syniadau... mae'r ymgynghoriad wedi bod yn wirioneddol werth chweil."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Bae Langland ymhlith y safleoedd sy'n dal yn cael eu hystyried ar gyfer datblygiad

Maes parcio ar waelod Lôn Sgeti, Lido Blackpill, tir ger ymyl parc sglefrio West Cross, a dau gwrt tenis ym Mae Langland yw'r safleoedd eraill y mae'r cyngor yn ystyried eu datblygu.

Dywedodd Mr Lloyd: "Mae nifer ac amrywiaeth y syniadau sydd wedi eu cynnig yn ein calonogi, gan gynnwys rhai Cyngor Cymuned Y Mwmbwls ar gyfer safle'r parc sglefrio sy'n gyffrous iawn."

Dydy'r cyngor ddim wedi gwneud unrhyw benderfyniadau terfynol ac mae uwch swyddogion yn mynnu nad ydyn nhw'n ystyried caniatáu adeiladau aml-lawr fyddai'n difetha'r olygfa.

Maen nhw wedi awgrymu y byddai bwytai a chaffis newydd o fudd i ymwelwyr a thrigolion lleol.

Mae'r cyngor yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb gan bartneriaid masnachol posib ond does dim bwriad i werthu'r safleoedd.