Y 'cyffro ac adrenalin' o fod yn filwr
- Cyhoeddwyd

Geraint Jones yn Afghanistan yn 2009
Cynnwrf a chwmnïaeth yw ffocws Geraint Jones pan mae'n sôn am ei ddyddiau yn y lluoedd arfog. Dim ond rhan o stori milwr yw PTSD, yn ôl Geraint, sy' wedi ysgrifennu llyfr am ei gyfnod yn Irac ac Afghanistan.
Mae Geraint, sy'n byw yn Wrecsam, yn sôn am ei brofiadau wrth i Brydain ddathlu Diwrnod y Lluoedd Arfog ar Dydd Sadwrn 29 Mehefin.
"Cafodd fy ngherbyd ei chwythu i fyny yn Afghanistan ac anafwyd fy ngyrrwr yn wael iawn a bu farw. Roedd hi'n ddiwrnod anodd.
"Ond y gwir brofiad gwaethaf i fi oedd mynd drwy'r cwest. Roedd hynny'n anoddach oherwydd bod ei deulu yno a 'da chi'n sylweddoli fod bywyd y teulu hwn wedi cael ei rwygo ar wahân am byth.
"Roedd hynny'n anoddach na chael fy chwythu i fyny."
Dyma oedd un o brofiadau rhyfel mwya' trawmatig yr is-gorporal Geraint Jones a fu'n ymladd yn Irac ac Afghanistan rhwng 2006 a 2010. Digwyddodd pan oedd yn teithio o wersyll Bastion, y prif wersyll yn Afghanistan, i ganolfan arall.
Dywedodd Geraint: "Dyma'n symudiad cyntaf o'r daith. Roeddem yn barod wedi taro rhai IUDs ac wedi colli rhai tryciau. Wnaethon ni daro'r IUD a chwythodd ein cerbyd ni i fyny.
"Cefais i concussion - dim ond dwy fetr i ffwrdd o'r blast o'n i ac roedd grym y ffrwydrad yn anhygoel.
Effaith feddyliol
"Ar y pryd, nid oedd yr effaith arna'i yn rhy ddrwg. Ro'n i'n disgwyl colli pump neu chwech o bobl ar y daith honno ac roeddwn yn barod wedi colli rhai ffrindiau.
"Roedd yn drist ond roedd rhaid i mi ei roi allan o fy meddwl.
"Fel milwr rydych chi'n ymdopi gyda'r peth ac yn cael diod. Yn Afghanistan, allwch chi ddim yfed, felly mae'n rhaid chi jest ymdopi."

Yr is-gorporal Geraint Jones yn yr eira yn Irac, 2007
Cwmnïaeth
Ac er mwyn ymdopi, mae milwyr yn dibynnu ar yr hwyl a'r gwmnïaeth o fewn y lluoedd, yn ôl Geraint: "Roedd gen i dîm a chenhadaeth. Mae hynny'n bwysig iawn mewn bywyd.
"Byddwn i'n gwneud o i gyd eto. Rwy'n colli cael hwyl gyda'r bechgyn. Mae'ch holl emosiynau mor eithafol a phan fyddwch chi mewn perygl fe ddewch o hyd i'r pethau mwyaf doniol.
"Fel milwr rydych chi'n cael cyffro ac adrenalin bob dydd bron. Mae dynion ifanc yn hoffi risg ac yn barod i gymryd risgiau mawr.
"Mewn rhyfel mae'r adrenalin yn rhuthro o hyd."
Byw mewn perygl
Yn Afghanistan cafodd Geraint brofiadau mwyaf heriol ei gyfnod fel milwr.
Mae'n disgrifio'i fywyd yno: "Rydych chi'n byw mewn compound mewn pentref. Gallai grenâd ddod dros y wal ar unrhyw adeg. Gallech gael eich saethu neu'ch bomio ar unrhyw adeg.
"Gall unrhyw le 'da chi'n cerdded gael IUD felly allwch chi ddim ymddiried yn eich traed.
"Unrhyw bryd chi'n patrolio efallai y cewch eich saethu - fedrwch chi byth ymlacio."

Ar ddyletswydd yng ngwres Afghanistan
Galwad
Fel plentyn ifanc roedd Geraint yn ysu i ymuno â'r fyddin: "Roedd yn rhywbeth yn fy esgyrn.
"Mae rhai pobl yn ymuno â'r fyddin oherwydd bod angen swydd arnyn nhw ond i mi roedd yn alwad."
Treuliodd 12 mlynedd yn y fyddin ac, er iddo gael addysg prifysgol, ei ddewis oedd gweithio yn y ranciau isel: "Ro'n i eisiau bod yn ddyn sy'n cicio'r drws i lawr yn hytrach na'r dyn sy'n dweud wrth y lleill i gicio'r drws.
"Y cyffro oedd yn bwysig ac ro'n i eisiau bod yng nghanol bob dim. Rwy'n credu fod cyfle wedi bod i wneud Irac ac Afghanistan yn llefydd gwell.
"Doedden ni ddim yn ymladd cenedl arall, roeddem yn brwydro yn erbyn grŵp cas o bobl. Felly roedd yn teimlo fel brwydr o dda yn erbyn drwg."

Geraint yn Irac: "Roedd yn teimlo fel brwydr o dda yn erbyn drwg"
Profiad o ladd
Mae llyfr Geraint, Brothers in Arms, yn disgrifio'n ddiflewyn-ar-dafod ei brofiadau o frwydro'r Taliban a'r ymdeimlad o ladd.
Yn ôl yr awdur: "Nid oedd lladd yn brofiad annymunol. Roedd fel sgorio cais mewn rygbi. Byddai wedi bod yn stori wahanol pe bawn i'n lladd rhywun diniwed.
"Ond oherwydd mai hwn oedd y gelyn, doedd gen i ddim problem gydag ef. Roedd y bobl hyn yn ceisio fy lladd i a'm ffrindiau.
"Yn bendant, ro'n i'n teimlo'n fodlon i gael dial ar ôl yr hyn a ddigwyddodd i'm gyrrwr.
"Mae yna foddhad o ladd y gelyn. Ac rwy'n gwybod bod llawer o filwyr eraill yn teimlo hynny hefyd. Ond wnaethom ni erioed dargedu pobl cyffredin yn fwriadol a phan welsom blant wedi'u hanafu...
"Roedd un plentyn yno oedd wedi chwarae gyda phetrol a gosod ei goesau ar dân, ac roedd pawb yn teimlo'n ofnadwy drosto."
PTSD
Erbyn hyn mae'r awdur 35 oed yn byw yn Wrecsam, lle cafodd ei fagu gan fynychu Ysgol Morgan Llwyd.
Dim ond ar ôl gadael y fyddin a chychwyn cymryd cyffuriau sylweddolodd Geraint y trawma yr oedd ei brofiadau wedi'i achosi. Cafodd diagnosis PTSD yn 2017.
"Roedd y llais yn fy mhen yn dweud fy mod yn wan, yn druenus ac nad oedd pwynt mewn bywyd heb fod yn filwr.
"Rhan o hynny oedd PTSD a rhan ohono oedd y diffyg pwrpas mewn bywyd ar ôl i mi adael y fyddin."

Adref eto: Cerdded yn y mynyddoedd ger Wrecsam
Dechreuodd gymryd pob math o gyffuriau i drio ailgreu'r cyffro roedd arfer teimlo fel milwr. Wedi derbyn triniaeth am PTSD, stopiodd Geraint gymryd cyffuriau.
Dywedodd: "Mae PTSD yn dal i fodoli y tu mewn i mi ond nid yw'n cymryd fy mywyd drosodd oherwydd fy mod i mewn lle gwell.
"Rwy'n iach, mae gennyf bwrpas ac mae gen i bobl dda o'm cwmpas.
"Mae'n rhaid i chi ei reoli'n dda. Dw i'n fwriadol yn osgoi perthnasoedd oherwydd ni allwn ymdrin â'r isafbwyntiau. Mae llawer o filwyr felly."
Erbyn hyn mae Geraint yn mwynhau byw nôl adref: "Mae rhywbeth am y lle y cawsoch eich magu. Mae rhywbeth am y mynyddoedd yma.
"Rydych chi'n sylweddoli eich bod chi'n rhan fach o fyd mawr."
Hefyd o ddiddordeb