Galw ar bob disgybl yng Nghymru i ddysgu am hanes Cymru

  • Cyhoeddwyd
Sian Gwenllian

Fe ddylai pob disgybl ysgol yng Nghymru ddysgu am hanes y wlad "yn ddieithriad" - dyna'r alwad gan sawl Aelod Cynulliad.

Dywedodd Siân Gwenllian o Blaid Cymru ei bod am i hanes Cymru fod yn ganolog i gwricwlwm newydd a fydd yn cael ei gyflwyno yn 2022.

Mae Ms Gwenllian a'r AC Ceidwadol Suzy Davies wedi cynnig datrysiad ar y mater, a cafodd y pwnc ei drafod yn y Senedd ddydd Mercher.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod "dysgu am hanes Cymru yn hanfodol i sicrhau fod y cwricwlwm yn llwyddo".

Eglurodd yr AC Arfon, sy'n llefarydd ar ran ei phlaid ar addysg a'r iaith Gymraeg, fod addysgu hanes Cymru yn "elfen allweddol o helpu'r genhedlaeth nesaf i fod yn ddinasyddion gwybodus sy'n cyfrannu i Gymru, ac i'r byd".

Mae'r cwricwlwm newydd, meddai, "yn gyfle go iawn i wneud hynny".

"Hanes, ac nid hanes Cymru, sy'n ymddangos ar y rhestr o bynciau i'w dysgu dan y dyniaethau," meddai.

Mae hi'n galw ar newid enw'r pwnc o Hanes i Hanes Cymru a'r byd gan fod "diffyg eglurder" dros "pa gyfnod o hanes Cymru, neu ddigwyddiadau hanesyddol yn hanes Cymru fydd yn rhan o'r cwricwlwm newydd".

'Dim sicrwydd'

Dywedodd wrth ei chyd ACau bod Hanes Cymru i fod yn rhan o'r cwricwlwm presennol, "ond eto mae miloedd ar filoedd o ddisgyblion yn gadael ysgol gyda dealltwriaeth o hanes y Natsïaid ac enwau gwragedd Harri VIII, ond dim byd am hanes eu gwlad eu hunain".

"Yr hyn sydd yn fy mhoeni yw'r ffaith nad oes unrhyw sicrwydd y bydd Hanes Cymru yn cael ei ddysgu fel rhan o'r cwricwlwm newydd.

"Mae'n rhaid i ni newid hynny, ac mae'r cwricwlwm newydd yn gyfle euraidd i sicrhau nad oes unrhyw ddisgybl yn methu allan ar y cyfle i ddysgu am hanes Cymru."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Elin Jones nad oes digon o wybodaeth ar gael am yr hyn sy'n cael ei ddysgu mewn ysgolion unigol

'Dim digon o arweiniad'

Daw'r galwad wrth i'r hanesydd Dr Elin Jones baratoi adroddiad i Lywodraeth Cymru gyda'r ymgais o gael mwy o hanes Cymru'n rhan o'r cwricwlwm.

Ei barn hi yw nad oes digon o wybodaeth ar gael am yr hyn sy'n cael ei ddysgu mewn ysgolion unigol.

"Tan yn ddiweddar roedd yn bosib i ysgolion osgoi gwneud hanes Cymru yn gyfan gwbl yn TGAU os oedden nhw'n gwneud rhywfaint o hanes Prydain - sef hanes Lloegr mewn gwirionedd," meddai.

"'Wyrach bod dim digon o arweiniad a dim digon o esbonio i athrawon sydd efallai newydd symud i ryw ardal, sydd ddim yn siŵr o hanes Cymru neu'r hanes lleol."

Wrth esbonio safbwynt Llywodraeth Cymru, dywedodd llefarydd: "Nid mater o gyfyngu astudiaeth o hanes Cymru i un rhan o'r cwricwlwm yw hyn".

"Bydd y cwricwlwm newydd yn cael ei drefnu yn chwe maes dysgu a phrofiad newydd. Bydd y Dimensiwn Cymreig a Phersbectif Rhyngwladol yn rhan annatod o bob un o'r chwech, ac nid yn gyfyngedig i wersi a phynciau cul.

"Bydd dysgu am hanesion Cymru yn hanfodol i gyflawni dibenion y cwricwlwm, er mwyn i ddysgwyr fod yn ddinasyddion cyfrannog, gwybodus a moesegol Cymru a'r byd."