Gwahardd tri o gefnogwyr Caerdydd rhag gemau pêl-droed

  • Cyhoeddwyd
Jesse LingardFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe gollodd Caerdydd y gêm yn erbyn Manchester United o 5-1

Mae tri o gefnogwyr Caerdydd wedi eu gwahardd rhag gemau pêl-droed ar ôl ymddwyn yn dreisgar mewn gêm yn yr Uwch Gynghrair y llynedd.

Mae Lee Thomas, 34, Gareth Walters, 34, a Royston Davies, 47, wedi derbyn gorchymyn gwahardd wedi digwyddiad yn y gêm rhwng Caerdydd a Manchester United ar 22 Rhagfyr.

Roedd dyn 22 oed a'i frawd 16 oed yn eistedd ymysg cefnogwyr Caerdydd ond yn cefnogi Manchester United, a digwyddodd y trais wrth i'r ddau gael eu tywys o'r eisteddle.

Yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Gwener, cafodd Thomas ei wahardd o gemau am bum mlynedd, tra bod Walters a Davies wedi eu gwahardd am dair blynedd.

Yn ogystal â'r gwaharddiadau bydd rhaid i'r tri gwblhau gwaith di-dâl a thalu iawndal i'r dioddefwyr.

Cafodd y ddau frawd eu targedu gan gefnogwyr Caerdydd ar ôl methu a chuddio eu hemosiwn wrth i Manchester United ennill cic o'r smotyn.

Fe wnaeth stiwardiaid eu tywys o eisteddle'r Canton, ond cafodd y ddau eu dilyn gan grŵp o gefnogwyr - gan gynnwys Thomas, Walters a Davies.

Fe wnaeth y tri ymosod a phoeri ar y brawd hŷn, er gwaethaf ymdrechion rhai cefnogwyr eraill i'w rhwystro.

Dywedodd Christian Evans o Heddlu De Cymru: "Er ei bod hi'n annoeth eistedd gyda chefnogwyr y tîm cartref, doedd y dyn ddim yn haeddu cael ei anafu."

Mae'r gwaharddiad yn golygu nad oes hawl gan y tri i fynychu unrhyw gemau pêl-droed yn y DU, na bod mewn tafarn sydd o fewn 2,500m i unrhyw gêm pum awr cyn ac ar ôl y gic gyntaf.