Ymchwil rhododendron: Ail-feddiannu cynefinoedd Eryri

  • Cyhoeddwyd
Gruff Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Gruffydd Jones bod y cynllun yn dangos bod "modd adfer y cynefinoedd naturiol yma"

Mae planhigion cynhenid yn ail-feddiannu tir oedd wedi'i orchuddio â rhododendron, yn ôl ymchwil gan Brifysgol Aberystwyth.

Mae'r gwaith ymchwil yn canolbwyntio ar Barc Cenedlaethol Eryri - lle mae dros 5,000 o erwau wedi eu gorchuddio gan y planhigyn ymledol.

Dangosodd yr ymchwil ar safle ym Meddgelert bod y pridd asidig sy'n cael ei adael wedi i'r rhododendron gael ei glirio yn cynnal cynefinoedd cynhenid gan gynnwys planhigion a choed amrywiol.

Dywedodd Gruffydd Jones, sy'n gyfrifol am y gwaith ymchwil, ei fod yn "newyddion da i'r parc" ac yn dangos bod modd "adfer y cynefinoedd naturiol yma".

Mae Rhododendron Ponticum yn blanhigyn cynhenid i wledydd ar Fôr y Canoldir a'r dwyrain canol. Cafodd ei fewnforio i Brydain ganrifoedd yn ôl i fod yn blanhigyn addurnol oherwydd ei flodau piws deniadol.

Ond fe ymledodd o erddi i fyw yn wyllt, ac erbyn ail hanner yr 20fed ganrif roedd wedi ymledu yn eang ac mae'n ymddangos ei bod yn ffafrio'r tir a'r hinsawdd ym Mharc Cenedlaethol Eryri.

Mae rheoli rhododendron bellach yn rhan o gynllun yn y parc i ddiogelu dyfodol hirdymor coedlannau derw sy'n cael eu galw'n Goedwigoedd Glaw Celtaidd.

Y parc sy'n arwain y cynllun gwerth dros £7m, fydd yn parhau tan 2025.

'RhodoCop'

Mae Mr Jones, sy'n wreiddiol o Bwllheli, yn fyfyriwr doethuriaeth yn Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig yn y brifysgol, a bellach wedi cael y llysenw 'RhodoCop' oherwydd natur ei waith.

"Beth welon ni oedd bod y rhododendron yn asideiddio'r pridd, a chanlyniad hwnna oedd - ar ôl torri a chlirio'r rhododendron - bod cynefinoedd cynhenid sy'n dod yn ôl yn fwy amrywiol," meddai.

"Yn sicr mae'n newyddion da i'r parc oherwydd mae'n dangos bod y gwaith maen nhw wedi bod yn gwneud yn llwyddiannus, a'i bod hi yn bosib adfer y cynefinoedd naturiol yma."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwaith ymchwil wedi bod yn "bwysig iawn", yn ôl un o swyddogion y Parc Cenedlaethol, Geraint Williams

Yn ôl Geraint Williams, un o swyddogion y prosiect, mae miloedd o erwau o dir, lle bu rhododendron yn ffynnu, bellach wedi'u clirio.

"Nod prosiect y Coedwigoedd Celtaidd yw gwarchod y coedwigoedd derw sydd wedi bod yma ers diwedd yr oes ia diwethaf, ac maen nhw'n adnodd pwysig iawn ar lefel Ewropeaidd.

"Un o'r prif achosion o ddirywiad y cynefinoedd yna ydy'r rhododendron ponticum - felly dros y saith mlynedd nesaf 'da ni am waredu ponticum oddi ar y coedlannau yna a hefyd sicrhau bod digon o buffer tu hwnt fel bod nhw ddim yn hadu 'nôl mewn."

Ychwanegodd bod cydweithio â Phrifysgol Aberystwyth wedi bod yn gymorth: "Mae'r gwaith ymchwil wedi bod yn bwysig iawn... mae'n rhoi arf arall i ni i wneud y penderfyniadau cywir gan fod mwy o ddata ar gael i sicrhau ein bod ni yn rheoli'r tiroedd yma yn well."