£8.6m i adfer coedwigoedd glaw Celtaidd Cymru

  • Cyhoeddwyd
Coedwig yng Nghwm EinionFfynhonnell y llun, Picasa/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cwm Einion ymhlith yr ardaloedd fydd yn elwa o'r cynllun

Mae gwaith ar fin cychwyn i adfer coedwigoedd glaw Celtaidd Cymru fel rhan o gynllun gwerth £8.6m.

Mae'r coedlannau'n nodedig oherwydd yr amodau mwyn a llaith, ond mae eu cyflwr yn dirywio oherwydd rhywogaethau ymledol.

Mae'r cyllid gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru yn mynd at waith i adfer cynefinoedd yn Eryri, Cwm Einion, Cwm Doethie a Chwm Elan.

Yn draddodiadol, mae natur agored coedwigoedd glaw yn helpu planhigion isel fel mwsogl a llysiau'r afu i ffynnu, ond mae rhywogaethau ymledol fel Rhododendron ponticum yn rhwystro golau'r haul rhag cyrraedd llawr y goedwig ac yn newid ansawdd y pridd.

Mae hynny a ffactorau eraill fel gorbori neu danbori, diffyg rheolaeth a llygredd nitrogen atmosfferig yn bygwth statws cadwraethol y coedwigoedd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhododendron yn ymledu gan beryglu mathau eraill o blanhigion

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sy'n arwain y prosiect gan gydweithio â RSPB Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru, Coed Cadw, a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Bydd yr arian yn "adfer a diogelu ein coedwigoedd," yn ôl prif weithredwr yr awdurdod, Emyr Williams, ac yn "meithrin gwerthfawrogiad a balchder ynddynt ymhlith trigolion Eryri, canolbarth a de Cymru er mwyn eu diogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol".

Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Hannah Blythyn: "Mae coedwigoedd yn ased naturiol gwerthfawr i ni yma yng Nghymru.

"Maent yn hanfodol i'n hamgylchedd, yn gwarchod rhag llifogydd, yn gwella ansawdd ein aer ac yn darparu cysgod i anifeiliaid."

Bydd y cynllun yn parhau tan haf 2025 ac mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau'r cyllid ar ei gyfer wedi Brexit.