Medal aur i ddynion Môn

  • Cyhoeddwyd
pel-droed

Fe wnaeth gôl Melvin McGinness gipio buddugoliaeth a'r fedal aur i Ynys Môn yn ffeinal y dynion yng Ngemau'r Ynysoedd.

Bu'n rhaid i Fôn daro nôl ar ôl i Guernsey fynd ar y blaen ar ôl pum munud o'r chwarae yng Nghaergybi.

Foli Liam Morris ddaeth â Môn yn gyfartal yn yr ail hanner o flaen torf o dros fil.

Dyma'r tro cyntaf i Fôn gynnal y twrnament, gyda 16 o dimau dynion a chwech o dimau merched yn cymryd rhan.

Yn gynharach yn y dydd fe wnaeth tîm merched Môn dderbyn medal arian ar ôl colli 2-1 yn y ffeinal yn erbyn Ynys Manaw.

Dywedodd Carol Lewis, dirprwy gapten merched Môn: "Targed ni cyn dechrau'r twrnament oedd cyrraedd y ffeinal a 'dan ni wedi gwneud hynny. Yndan 'da ni'n siomedig ond dal 'dan ni'n gallu dal ein pennau fyny a 'dan ni wedi gwneud yn wych."

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth merched Môn ennill y fedal arian

Bydd gweddill Gemau'r Ynysoedd yn cael eu cynnal yn Gibraltar eleni.

Does gan Gibraltar ddim digon o gaeau i gynnal y twrnament pêl-droed, felly fe ofynnwyd i Ynys Môn gamu i'r adwy er mwyn ei gynnal.

Gobaith Môn yw gallu cynnal y gemau cyfan yn 2025.