Arestio dyn wedi marwolaeth menyw 30 oed yn Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Llangyfelach RoadFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd corff menyw ei ddarganfod mewn tŷ ar Heol Llangyfelach yn Abertawe

Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ddynladdiad yn dilyn marwolaeth menyw yn Abertawe.

Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i Heol Llangyfelach am tua 20:15 nos Sadwrn ar ôl i gorff menyw 30 oed gael ei ganfod.

Cafodd dyn 49 oed ei arestio ar amheuaeth o ddynladdiad ac mae'n cael ei gadw yn y ddalfa.

Mae ystafell benodol wedi'i neilltuo yng ngorsaf heddlu'r Cocyd wrth i'r heddlu ymchwilio i sut fu farw'r fenyw.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth a all fod o gymorth i'r heddlu eu ffonio ar 101.