Person wedi marw yn Hanner Marathon Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae trefnwyr Hanner Marathon Abertawe wedi cadarnhau bod rhedwr wedi marw ddydd Sul.
Mewn datganiad ar eu gwefan, dywedodd y trefnwyr eu bod yn "gweithio'n agos gyda'r holl wasanaethau brys" ac yn ymchwilio i'r digwyddiad.
"Mae ein cydymdeimladau dwysaf ni'n mynd i'r teulu a'r ffrindiau ar yr adeg yma," meddai.
Roedd amcangyfrif bod y digwyddiad wedi denu tua 10,000 o redwyr.
Yn gynharach eleni daeth ymchwiliad crwner i'r casgliad bod dau ddyn a fu farw ar ôl gorffen Hanner Marathon Caerdydd y llynedd wedi marw o achosion naturiol.