Dyn wedi marw wrth linell derfyn hanner marathon Abertawe
- Cyhoeddwyd

Roedd rhedwr fu farw yn ystod hanner marathon yn Abertawe dros y penwythnos wedi syrthio wrth y llinell derfyn, yn ôl yr heddlu.
Bu'n rhaid i'r dyn gael cymorth ar ôl iddo syrthio ar Stryd Adelaide, Abertawe, am 13:20 brynhawn Sul.
Er iddo gael triniaeth yn y fan a'r lle gan wirfoddolwyr Gwasanaeth Sant Ioan, bu farw yn Ysbyty Treforys yn ddiweddarach.
Yn ôl yr heddlu does dim amgylchiadau amheus i'r farwolaeth ac mae'r crwner wedi cael gwybod.

Mae Stryd Adelaide fetrau'n unig o ddiwedd yr hanner marathon
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Sant Ioan: "Fe dderbyniodd y claf gymorth buan cyn cael ei drosglwyddo i'r ysbyty.
"Rydyn ni'n cydymdeimlo gyda theulu'r claf a'i ffrindiau yn ystod y cyfnod anodd hwn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mehefin 2019