Sut mae perthynas rywiol yn newid wrth fynd yn hŷn?

  • Cyhoeddwyd

Mae perthynas rywiol yn newid wrth i chi fynd yn hŷn, meddai Winnie James, 81 oed, o Grymych, a briododd ei gŵr Dai rai misoedd yn ôl.

Wrth i iechyd ac amgylchiadau bywyd newid, sut mae hynny'n effeithio ar berthynas gŵr a gwraig?

Disgrifiad o’r llun,

Winnie James a Dai Phillips

"Mae caru heddi yn hollol wahanol nag oedd e yn fy amser i. O'dd dim siarad gatre ambiti caru, ond heddi mae'n sgwrs dros frecwast," meddai Winnie James, a briododd ei gŵr Dai bythefnos cyn y Nadolig y llynedd, a hithau'n 80 oed a Dai yn 85, ar ôl bod gyda'i gilydd am ugain mlynedd.

"O'n i'n unig blentyn, ac o'n i'n meddwl bod bachgen yn rhywbeth rhyfedd, o'n i ddim yn gwybod o ble yn y byd oedd bechgyn yn dod!

"O'n i ddim yn gwybod am y facts of life, oedd dim brawd na chwaer gen i, so o'n i'n meddwl bod Mam yn ordro plentyn o siop JD Williams! Dyna mor dwp o'n i nôl yn y 1930au. Oedd neb yn trafod y pethe 'ma.

"Nawr, dwi'n mynd mas gyda pedair o ferched unwaith y mis a ry'n ni'n siŵr o siarad ambiti rhyw - 'sai'n credu bydden ni'n iach heblaw am hynny.

"Cwrddes i â Dai ugain mlynedd yn ôl, ac erbyn hyn dyw'r gyfathrach [rhywiol] ddim yn golygu dim i fi, i ddweud y gwir.

"Cwmni yw'r cwbwl nawr. Mae'n neis iawn cael cwmni yn y tŷ yn y nos.

"Ond mae'n rhaid cael cusan, mae hwnna'n mynd yn bell. Ni'n mynd i'r gwely nawr, ac y'n ni'n eitha' tawel. Ond pan o'n ni... wel, o'n ni'n joio, ac o'dd lot o bethe yn digwydd pryd hynny! Ond o'n i'n achwyn bod pen tost da fi ac oedd fy nghefen i'n dost - oedd dim byd yn well na cysgu!

"Rydyn ni i gyd yr un peth ond yn rhy swil i siarad amdano fe.

"Dwi'n parchu'r gŵr nawr mwy fel cymar na sex machine!"

Roedd Winnie James yn siarad ar raglen Bore Cothi fore Llun, 24 Mehefin gyda Dr Harri Pritchard sy'n feddyg teulu. Meddai Dr Harri bod dim angen poeni am ryw wrth i chi fynd yn hŷn, os yw'r ddau yn y berthynas yn disgwyl yr un peth.

"Does dim byd mae'n rhaid i rywun boeni'n ofnadwy amdano fo, yn sicr mae'r un rheolau i bobl hŷn a phobl ifanc yn y byd sydd ohoni, sef bod yn ofalus o ran clefydau rhywiol. Dydy'r ffaith bod rhywun dros eu pumdeg ddim yn golygu nad ydyn nhw'n gallu dal y clefydau yma.

"Beth sy'n bwysig ydy'r berthynas rhwng yr unigolion. Os nad yw'r ochr rywiol yn bwysig a bod y ddau yn hapus ac yn gyfforddus gyda hynny, does dim problem o gwbwl. Mewn cyplau eraill, sydd yr un oedran â Winnie, mae'r ochr rywiol yn bwysig i'w perthynas, a chyn belled bod y ddau yn hapus, does 'na ddim problem gyda hynny.

"Lle mae'r problemau yn dwad yw os oes un yn y berthynas yn gweld yr ochr rywiol yn bwysig a'r person arall wedi colli'r awydd, neu ddim yn gweld yr ochr rywiol yn bwysig."

Disgrifiad,

Dr Harri Pritchard a Winnie James fu'n sgwrsio â Shân am gael rhyw pan yn hŷn

'Dydy oedran ddim yn reswm pam na all rhywun gael rhyw'

Yn ôl Dr Harri Pritchard, siarad a bod yn agored gyda'ch gilydd yw'r ateb i berthynas cryfach gyda'ch partner.

"Mae gen i nifer fawr iawn o gleifion sy'n dwad i drafod problemau rhyw mewn oed hŷn a mae'n gwbl naturiol. Oes mae 'na broblemau naturiol sy'n gallu dod wrth fynd yn hŷn. Mae effaith y menopos ar ferched yn gallu 'neud rhyw yn boenus ac yn anoddach, ond mae yna atebion i hynny. Ac i ddynion mae erectile dysfunction yn gallu bod yn broblem seicolegol, ffisegol - eto mae 'na dabledi i gael a pethe gellid eu trafod.

"Felly dydy oedran ddim yn reswm pam na all rhywun gael rhyw.

"Efallai beth sy'n anoddach yw bod y corff yn mynd yn fwy brau. Mae rhywun efallai wedi cael clun newydd neu afiechyd ar y galon neu'r ysgyfaint, ac mae rhaid i rywun adaptio eu bywyd rhywiol o gwmpas y problemau sydd ganddyn nhw.

"Mae 'na nifer fawr o bobl sydd â bywyd rhyw maen nhw'n hapus a chyfforddus efo fo ac os oes ganddyn nhw broblemau yn sicr mae'n werth mynd at y meddyg i ofyn."

Hefyd o ddiddordeb: