Dyn yn pledio'n euog i ymosod ar bensiynwr yn ei chartref
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi pledio'n euog i ymosod ar bensiynwr yn ei chartref ger Pontarddulais a dwyn ganddi.
Yn y gorffennol roedd Jeffrey Paul Lloyd, 41, wedi gwadu ymosod ar Ruthann Yandle, oedd yn athrawes Saesneg yn Ysgol Gyfun Gŵyr nes iddi ymddeol.
Mae Ms Yandle, 73, yn parhau i wella o'r anafiadau difrifol y dioddefodd yn yr ymosodiad.
Clywodd Llys Ynadon Abertawe mewn gwrandawiad blaenorol bod Lloyd wedi taro Ms Yandle bedair gwaith gyda pholyn metel - unwaith pan oedd hi'n gorwedd ar y llawr.
Troseddau 'difrifol iawn'
Roedd Lloyd wedi pledio'n ddieuog i dri chyhuddiad cyn newid ei ble a chyfaddef un achos o achosi niwed corfforol bwriadol gyda bwriad ac achos arall o ddwyn.
Ond ni wnaeth Lloyd newid ei ble ynglŷn â chyhuddiad o geisio llofruddio, fydd yn cael ei ystyried yn y gwrandawiad dedfrydu.
Dywedodd y Barnwr Keith Thomas yn Llys y Goron Abertawe ddydd Llun ei fod yn ystyried dedfryd o oes yn y carchar oherwydd natur "difrifol iawn y troseddau".
Cafodd Lloyd ei gadw yn y ddalfa nes ei wrandawiad dedfrydu ar 19 Gorffennaf.