Y cerfiwr o Rydaman ddaeth yn seren YouTube annisgwyl
- Cyhoeddwyd
Mae cerfiwr a chaligraffydd o Rydaman wedi darganfod ei fod yn seren YouTube annisgwyl, gyda miliynau o ddilynwyr ASMR yn gwylio fideo o honno.
Teimlad yw ASMR (autonomous sensory meridian response) sy'n debyg i 'tingle' neu 'statig'. Mae'n cael ei achosi gan synau penodol neu gan wylio rhai pethau penodol ac mae fideos o'r fath wedi tyfu mewn poblogrwydd yn ddiweddar.
Yn 2012, fe recordiodd y cerfiwr profiadol, Ieuan Rees, 78, fideo yn dangos ei grefft, cyn anghofio amdano'n llwyr.
Ond, yn ddiweddar, cafodd sioc wrth ddarganfod bod fersiwn o'i fideo wedi cael ei wylio 2.2m o weithiau ar YouTube.
Llais 'cartrefol'
"Mae wedi cael rhyw sort o effaith mawr ar bobl ac mae hwnna'n sioc, achos doedd dim syniad 'da fi amser 'o ni'n gwneud y fideo bydde hyn yn digwydd," meddai Mr Rees.
Cafodd y fideo gwreiddiol ei greu gan gwmni cynhyrchu sy'n arddangos crefftau amrywiol. Mae'n dangos Ieuan yn cerfio carreg fedd tra'n trafod ei waith, ei grefft a'i athroniaeth.
Daeth i wybod bod y fideo wedi cael ei olygu a'i gyhoeddi gan gyfrif ASMR ar ôl galwad gan newyddiadurwraig o'r New York Times yn holi am ei waith.
"Fi'n gwybod bod e bach yn embarrassing i 'weud hyn, ond y rheswm medde hi; y fenyw 'ma o'r New York Times, yw bod rhywbeth am biti'n llais i sy'n gwneud i bobl deimlo'n gartrefol.
"Maen nhw'n licio sŵn y gaing - y morthwyl a'r gaing a'r ffordd oedd y sŵn yn llifo. Ond yn ôl bob tebyg, roedd fy llais i'n llifo hefyd!"
Ymhlith y sylwadau ar YouTube, mae dilynwyr yn cyfeirio ato fel 'legend' a dyn 'dymunol'. Mae un gwyliwr yn ei gymharu â'r arluniwr enwog o America, Bob Ross.
Beth yn union yw ASMR?
Bathwyd y term yn 2010, yn ôl bob tebyg, gan Americanes o'r enw Jennifer Allen, wnaeth greu grŵp Facebook i drafod y teimlad.
Mae ASMR yn disgrifio'r teimlad corfforol mae pobl yn ei gael mewn ymateb i weld neu glywed pethau penodol.
Gan rai sy'n profi ASMR, mae'n cael ei ddisgrifio fel 'tingle', sy'n teithio lawr o'r pen ac i lawr yr asgwrn cefn. Mae nifer o wahanol bethau yn gallu achosi'r ymateb.
Mae mwy na 13 miliwn o fideos ASMR ar YouTube ac mae amrywiaeth eang o synau a delweddau ynddyn nhw. Yn eu plith, mae fideos o bobl yn trin gwallt, tylino a phlygu tywelion.
Yn ôl Dr Agnieszka Janik McErlean, arbenigrwaig ar ASMR a darlithydd seicoleg ym Mhrifysgol Bath Spa, mae'r fideo yn enghraifft nodweddiadol o ddeunydd sy'n achosi ASMR.
Mae rhai synau fel sibrwd yn boblogaidd, meddai, yn ogystal â "gwylio pobl yn symud yn ara' deg iawn, yn canolbwyntio'n agos ac yn perfformio tasgau penodol".
"Mae pobl yn gwylio'r fideos, nid yn unig i brofi'r teimlad ond hefyd i ymlacio, lleihau lefelau o straen a phryder ac er mwyn cysgu," meddai.
Mae Ieuan, sy'n dad i ddau o blant, yn credu bod ei acen Gymreig, "sŵn y morthwyl a'r gaing" a'i ffordd o siarad o'r galon yn cyfrannu at ei boblogrwydd ar-lein.
Enwogrwydd yn achosi 'embaras'
Er bod miliynau wedi darganfod ei dalent ar y we yn ddiweddar, mae gan Ieuan ddegawdau o brofiad yn y maes.
Fel caligraffydd, fe ddyluniodd logo y rhaglen deledu, The Vicar of Dibley. Mae hefyd wedi dylunio a cherfio cofebau ar gyfer enwogion fel Laurence Olivier yn Abaty Westminster ac mae ei waith i'w weld ar adeiladau cyhoeddus, gan gynnwys y Senedd.
Yn ddiweddar, mae wedi bod yn canolbwyntio ar gerfio cerrig beddi. Mae'n dweud bod y gwaith wedi datblygu'r modd mae'n cyfathrebu gyda theuluoedd.
"Pan mae pobl yn dioddef ar ôl profedigaeth, enwedig os 'yn nhw wedi colli plentyn, 'wi'n gorfod delio gyda hynny yn ofalus dros ben, a cheisio gwneud i'r rhieni deimlo fy mod i'n gwneud rhywbeth iddyn nhw. Felly fi ddim yn poeni am fy hun," meddai.
Er ei fod yn teimlo lefel o "embaras" ei fod nawr yn enwog ar YouTube, mae'n cydnabod efallai y dylai fwynhau'r sefyllfa.
"Mae'n embaras, ond os oes gen i'r talent a'i fod yn rhoi pleser i bobl, efallai y dylwn i fod yn ddiymhongar a derbyn hynny a bod yn ddiolchgar fy mod i'n gallu gwneud hyn."