CPD Bangor i aros yn y Gynghrair Undebol yn dilyn apêl

  • Cyhoeddwyd
CPD Bangor
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r clwb dal yn wynebu colli 21 o bwyntiau o'u cyfanswm yn ystod tymor 2018/19

Bydd Clwb Pêl-droed Dinas Bangor yn parhau i chwarae yn ail haen pyramid Cymru y tymor nesaf yn dilyn apêl.

Roedd disgwyl i'r clwb ddisgyn o'r Gynghrair Undebol ar ôl i Gymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) gael y clwb yn euog o dorri rheolau ariannol yn ymwneud â chofrestru chwaraewyr ym mis Mai.

Fel rhan o'r gosb wreiddiol byddai'r clwb wedi colli 42 o bwyntiau a chael eu gwahardd rhag arwyddo chwaraewyr am weddill y flwyddyn.

Ond dywedodd y clwb mewn datganiad ddydd Llun fod panel apêl annibynnol wedi penderfynu lleihau'r gosb yn dilyn gwrandawiad.

Ar ôl i'r clwb gyflwyno gwybodaeth newydd, fe benderfynodd y panel leihau'r gosb i 21 o bwyntiau - digon i sicrhau eu bod nhw'n aros i fyny ar wahaniaeth goliau.

Er i'r clwb osgoi disgyn i'r drydedd adran, maen nhw dal yn gorfod talu dirwy o £700 ac wedi eu gwahardd rhag arwyddo chwaraewyr newydd.

Ychwanegodd y clwb eu bod wrth eu boddau gyda phenderfyniad "teg" y panel, a'u bod yn "edrych 'mlaen at y tymor sydd i ddod".

Fe gadarnhaodd CBDC bod y gosb wedi ei lleihau mewn datganiad nos Lun.