Y gwleidydd Eurig Wyn wedi marw yn 74 oed
- Cyhoeddwyd

Bu farw'r gwleidydd a chyn-Aelod Seneddol Ewropeaidd Plaid Cymru, Eurig Wyn yn 74 oed.
Cafodd ei ethol fel AS Ewropeaidd dros Gymru rhwng 1999 tan 2004.
Cychwynnodd ei yrfa wleidyddol gyda Chyngor Sir Gwynedd yn 1989.
Bu'n cynrychioli ward Waunfawr ar Gyngor Gwynedd nes penderfynu ildio'r awenau ym Mehefin 2016.
Mewn neges Twitter dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, fod Eurig Wyn yn wleidydd oedd am "wneud Cymru yn well lle".

Roedd Eurig Wyn a Jill Evans yn gyd-aelodau o Senedd Ewrop rhwng 1999 a 2004
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dywedodd Jill Evans, AS Ewropeaidd Plaid Cymru, fu'n aelod o Senedd Ewrop yr un pryd â Mr Wyn: "Rwyf wedi fy nhristau yn fawr o glywed y newyddion.
"Roedd o'n ddyn mor dda, a byth yn ofn siarad pan welodd anghyfiawnder.
"Roedd yn ymddiddori mewn materion rhyngwladol a dwi'n cofio mynd ar daith i Balestina gydag ef.
"Roedd e hefyd yn ymgyrchu yn frwd ar ran y gymuned Cwrdaidd. Roedd yn ymgyrchydd dros ryddid ac annibyniaeth ar draws y byd.
"Fe welais i ef ychydig wythnosau yn ôl mewn rali annibyniaeth fawr yng Nghaerdydd, roedd mewn hwyliau da. Fe fyddaf yn ei golli'n fawr."
'Cynghorydd diwyd'
Yn ôl Dafydd Iwan, Llywydd Plaid Cymru rhwng 2003-2010, mae "Plaid Cymru a Chymru wedi colli un o'u lladmeryddion ffyddlonaf".
"Bu'n aelod gwerthfawr o Senedd Ewrop dros Gymru, ac yn gynghorydd diwyd dros ei filltir sgwâr.
"Byddaf yn ei gofio fel ffrind cywir a ffraeth, a mawr fydd y golled ar ei ôl."
Dywedodd y cynghorydd Edgar Wyn Owen, Cadeirydd Cyngor Gwynedd: "Roedd hi'n fraint i mi gael dilyn Eurig fel cynghorydd Waunfawr ar Gyngor Gwynedd pan benderfynodd o gamu lawr tair blynedd yn ôl.
"Roedd Eurig yn gyfaill annwyl ac yn sicr bydd y gymuned gyfan yn cofio am ei waith diflino fel aelod lleol dros Waunfawr.
"Fel gŵr bonheddig a Chymro i'r carn, rydw i'n gwybod ei fod yn aelod uchel ei barch gan gynghorwyr ar draws y Cyngor a'i fod bob amser am weld y gorau dros Wynedd a Chymru.
"Fel Cyngor, anfonwn ein cydymdeimlad dwysaf i'w deulu."
Dywedodd arweinydd Cyngor Gwynedd, y cynghorydd Dyfrig Siencyn fod Eurig Wyn yn "gymeriad hawddgar a hoffus" ac yn "wleidydd praff a roddodd oes o wasanaeth i Gymru a'r Gymraeg."

Eurig Wyn yn darlledu i'r BBC o bentref Derwen Gam, Ceredigion, yn 1973
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Cyn ei yrfa wleidyddol bu'n ohebydd gyda'r BBC gan gyfrannu i'r rhaglen Heddiw.
Bu farw yn ei gartref yn Waunfawr ar ôl salwch byr.
Mae'n gadael gwraig, dau o blant a phedwar o wyrion.