Heddlu Groeg 'heb chwilio'n iawn' am Gymro sydd ar goll
- Cyhoeddwyd
Mae teulu dyn sydd wedi bod ar goll yng Ngroeg ers dros wythnos wedi datgan eu siom a'u rhwystredigaeth gyda'r heddlu yno.
Fe dreuliodd y gwasanaethau brys ar ynys Zante wythnos yn edrych am John Tossell - sy'n 73 ac o Ben-y-bont - wedi iddo fethu a dychwelyd i'w westy ar ôl mynd i gerdded ar 17 Mehefin.
Roedd ar drydydd diwrnod ei wyliau gyda'i bartner Gillian ac roedd wedi mynd i gerdded i fynachlog ar Fynydd Skopos ger pentref Argassi.
Mae'r chwilio bellach wedi dod i ben.
Mae mab Gillian, Leigh Griffiths - sydd wedi bod yn chwilio ar yr ynys ers wythnos - yn honni nad ydy'r heddlu yn Zante wedi edrych yn iawn ar y CCTV yno.
Aeth Mr Griffiths, 46, allan i Zante ar ôl clywed am ei ddiflaniad.
"Fe wnaethon ni gyfarfod pennaeth yr heddlu pan gyrhaeddon ni ar y dydd Mercher [26 Mehefin] a gofyn iddo fe am unrhyw CCTV ond fe ddywedon nhw nad oedd unrhyw luniau o John wedi cael eu recordio ers y bore aeth ar goll," meddai.
"Nes i ofyn i gael gweld e fy hun, fe gytunon nhw, ond cafodd hynny ei oedi tan y Llun canlynol [24 Mehefin].
"Fe ddangosodd yr heddlu eu bod nhw wedi checio rhwng 09:30 a 10:30.
"Doedd dim lluniau o John bryd hynny, ond nes i ofyn iddyn nhw fynd yn ôl cyn 09:30, a dyna ble'r oedd e. Nes i ffeindio hynny bron yn syth."
Ychwanegodd Mr Griffiths ei fod wedi mynd ymlaen i ofyn i fwytai lleol am CCTV ble ddaeth o hyd i fwy o luniau o Mr Tossell.
Dywedodd Mr Griffiths petai'r heddlu wedi dod o hyd i'r rhain yn gynt, byddai yna fwy o siawns o ddod o hyd i Mr Tossell.
'Diflannu oddi ar wyneb y ddaear'
Mae Mr Griffiths a'i fam bellach wedi hedfan yn ôl adref, ac maen nhw nawr yn ofni'r gwaethaf.
"Mae John yn ddyn ffit, mae'n nofio tair gwaith yr wythnos ac yn cerdded milltiroedd pob dydd gyda'r cŵn," meddai.
"Ond rwy'n ddyn realistig, rwy' ddim yn meddwl bod unrhyw siawns o ddod o hyd i John yn fyw."
Dywedodd Mr Griffiths ei fod wedi cerdded y llwybr yr oedd yn meddwl y byddai Mr Tossell wedi'i cherdded sawl gwaith.
Ond mae'n credu fod Mr Tossell wedi syrthio - o bosib o achos y gwres llethol - i lawr un o lethrau Mynydd Skopos.
"Mae fel petai wedi diflannu oddi ar wyneb y ddaear," meddai.
Gofynnodd unwaith eto am wybodaeth gan gwpl gafodd eu gweld yn siarad gyda Mr Tossell mewn caffi'n agos i'r fynachlog.
Mae BBC Cymru wedi gofyn i heddlu Zante am ymateb.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mehefin 2019