Teyrnged i ddyn fu farw yn hanner marathon Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae teulu wedi rhoi teyrnged i ddyn ifanc "llawn bywyd a charedig" a fu farw tra'n cymryd rhan yn Hanner Marathon Abertawe dros y penwythnos.
Roedd Wil Sern Ong, 21 oed ac yn wreiddiol o Maleisia, wedi symud i Abertawe yn 2017 er mwyn astudio cwrs Peirianneg Amgylcheddol ym mhrifysgol y ddinas.
Bu'n rhaid iddo gael cymorth wedi iddo fynd i drafferthion ger y llinell derfyn ar Stryd Adelaide am 13:20 brynhawn Sul.
Er iddo gael triniaeth yn y fan a'r lle gan wirfoddolwyr Gwasanaeth Sant Ioan, bu farw yn Ysbyty Treforys yn ddiweddarach.
'Torri'n calonnau'
Dywedodd ei deulu mewn datganiad eu bod yn "torri'n calonnau yn dilyn marwolaeth sydyn a thrasig Wil Sern Ong".
"Does dim geiriau'n gallu mynegi pa mor drist a phoenus yw hyn i'r teulu," meddai'r datganiad.
"Yn ei fywyd byr 21 mlynedd, cafodd effaith ar gymaint o bobl."
'Caru bywyd'
Dywedodd trefnwyr y ras mai dyma'r ail waith i Mr Ong gymryd rhan yn y digwyddiad, a bod "pawb sy'n gysylltiedig â Hanner Marathon Abertawe wedi ein tristau gan y farwolaeth".
Ychwanegodd brawd Mr Ong: "Roedd Wil Sern yn caru bywyd, yr heriau roedd yn eu codi a chyffro anturiaethau a phrofiadau newydd.
"Bydd yn cael ei golli gan gymaint o ffrindiau, yma a nôl adref ym Maleisia.
"Mae hi mor drist bod hyn wedi digwydd. Byddwn yn ei golli cymaint."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd24 Mehefin 2019