50 mlynedd ers arwisgiad Tywysog Cymru yng Nghaernarfon
- Cyhoeddwyd

Cafodd Charles ei arwisgo fel Tywysog Cymru yng Nghastell Caernarfon ar 1 Gorffennaf 1969
A hithau'n 50 mlynedd ers arwisgiad Tywysog Cymru yng Nghaernarfon, mae'r Tywysog Charles yn dechrau ar ei daith flynyddol i Gymru ddydd Llun.
Roedd Charles yn 20 oed pan gafodd ei goroni'n Dywysog Cymru o flaen tyrfa fawr yng Nghastell Caernarfon yn 1969.
Cafodd y seremoni ei darlledu'n fyw gan ddenu miliynau o wylwyr o amgylch y byd, ond roedd yr ymateb yng Nghymru yn un cymysg.
Roedd yna hollti barn rhwng y rheiny oedd yn cefnogi'r rôl a'r rhai oedd yn credu ei fod yn rhywbeth oedd yn cael ei orfodi ar y wlad.
Cafodd yr arwisgiad ei gynnal ymysg protestiadau ac ar 30 Mehefin 1969, y noson cyn yr arwisgo, lladdwyd dau aelod o Fudiad Amddiffyn Cymru yn Abergele pan ffrwydrodd bom cyn pryd.
Hanner canrif yn ddiweddarach does dim digwyddiadau mawr i nodi'r hanner canmlwyddiant wedi'u trefnu yng Nghaernarfon.

Y Tywysog Charles yn cyflwyno torch yng ngwasanaeth coffa'r Cafalri Cymreig (Queen's Dragoon Guards) yng Nghadeirlan Llandaf ar ddiwrnod cyntaf ei daith flynyddol
Un a gafodd wahoddiad i'r arwisgiad oedd Syr Nicholas Soames, un o ffrindiau'r Tywysog.
"Heb os roedd yn un o ddyddiau gorau fy mywyd... roedd Tywysog Cymru yn cael ei arwisgo mewn seremoni wefreiddiol yn y castell arbennig yno," meddai.
Ers yr arwisgiad mae Charles wedi gweithio ar sawl cynllun sydd o ddiddordeb iddo gan gynnwys rhai yn ymwneud ag adfywio trefol, yr amgylchedd, saernïaeth, ffermio a'r celfyddydau.
Fe aeth ymlaen hefyd i ffurfio Ymddiriedolaeth y Tywysog, sy'n cynnig hyfforddiant a chefnogaeth i bobl ifanc a phobl dros 50 oed yng Nghymru a thu hwnt.
Arwisgiad arall?
Pe bai Charles yn dod yn Frenin, y Tywysog William fyddai'n debygol o fod yn Dywysog nesaf Cymru pe bai penderfyniad i barhau â'r rôl.
Mae cwestiynau nawr yn cael eu gofyn ynglŷn ag a fyddai seremoni debyg yn cael ei chynnal eto.

Yn ôl yr Athro Laura McAllister gallai arwisgiad arall agor trafodaeth am rôl y frenhiniaeth yng Nghymru
Ym mis Mawrth fe wnaeth arolwg barn gan BBC Cymru awgrymu bod 61% o'r rhai a holwyd yng Nghymru o blaid cynnal arwisgiad arall.
Ond yn ôl yr Athro Laura McAllister o Ganolfan Llywodraethiant Cymru gallai seremoni debyg i'r un a welwyd yn 1969 agor trafodaeth am rôl y frenhiniaeth yng Nghymru.
"Rydym mewn sefyllfa wahanol nawr ble mae pobl yn dangos llai o barch tuag at awdurdod, ac yn enwedig tuag at y Teulu Brenhinol," meddai'r Athro McAllister.
"Maen nhw'n teimlo bod anghydraddoldeb a braint yn cael eu harddangos ar adeg pan fo llawer o bobl yn ei chael yn anodd cadw dau ben llinyn ynghyd.
"Mae 'na deimlad bod rhaniadau rhwng 'ni' a 'nhw' yn nhermau'r rheiny sydd mewn pŵer a'r gweddill ohonom ni."
'Achosi gwrthdaro'
Ychwanegodd y gallai unrhyw benderfyniad i gynnal arwisgiad arall fod yn "gyfnod pwysig" yn hanes y wlad.
"Gallai hynny achosi gwrthdaro mewn trafodaeth am Dywysog nesaf Cymru ac unrhyw ymdrech i drefnu seremoni fel yr arwisgiad," meddai.
"Pe bai penderfyniad i gynnal arwisgiad i'r Tywysog William fe fydden i'n synnu'n fawr pe na bai hynny'n achosi rhaniadau mawr ac yn troi'n gyfnod pwysig yn hanes gwleidyddol Cymru."

Dywedodd Prif Weinidog Cymru na fyddai'n briodol ail-adrodd yr arwisgo 50 mlynedd yn ddiweddarach.
"Dwi'n cofio'r diwrnod" meddai Mark Drakeford yn ei gynhadledd fisol.
"Dwi'n weriniaethwr fy hun, yn union fel ro'n i pan yn 14 oed. Dwi heb newid fy meddwl ers hynny."
Fe wnaeth gydnabod ei bod hi'n "ddathliad enfawr" i nifer fawr o bobl yn 1969 ond fod yr oes wedi newid.
"Dwi ddim yn meddwl bod ail-adrodd pethau a oedd yn dderbyniol 50 mlynedd a mwy yn ôl yn beth doeth wrth feddwl am sut i wneud pethau'n y dyfodol", meddai.
"Ond fe alla i ddychmygu y byddai'r rheiny sy'n meddwl amdano fe yn ystyried sut mae trefnu pethau yn y Gymru fodern, yn hytrach na mynd yn ôl i fodel sy'n 50 oed."
Dywedodd Bethan Sayed nad yw'r frenhiniaeth yn "rhywbeth sy'n perthyn i ni" yng Nghymru
Mae AC Plaid Cymru, Bethan Sayed yn cytuno y byddai arwisgiad tebyg i'r un yn 1969 yn ddadleuol, gan ddweud y byddai hi'n rhagweld protestiadau fel y rheiny hanner canrif yn ôl.
"Dwi'n gwybod bod 'na gefnogaeth o hyd i'r Teulu Brenhinol, ond mae nifer o bobl sy'n weriniaethwyr fel fi yn credu na ddylen ni gael arwisgiad arall ac na ddylen ni gael brenhiniaeth yma yng Nghymru," meddai.
"Dyw e ddim yn rhan o'r gymdeithas rydyn ni am ei hybu.
"Dydw i ddim eisiau targedu unigolion y Teulu Brenhinol ond fydden i ddim am weld arwisgiad arall a bydden i'n gobeithio y byddai protestiadau i ddangos nad yw'r frenhiniaeth yn rhywbeth sy'n perthyn i ni yn ein cymdeithas heddiw a bod angen symud ymlaen o'r traddodiadau hynny."
'Gwaith ardderchog'
Dywedodd y cerddor a chyn-arweinydd Plaid Cymru, Dafydd Iwan nad oes pwrpas cyfleu'r Tywysog fel "cymeriad drwg".
Er ei fod yn gwrthwynebu'r rôl, ychwanegodd fod Charles wedi gwneud "gwaith ardderchog gydag Ymddiriedolaeth y Tywysog".
Yn ôl cyn-Arglwydd Raglaw de Morgannwg, yr Arglwydd Norman Lloyd Edwards, mae'r Tywysog Charles yn "teimlo'n angerddol iawn am y rôl".
Ychwanegodd: "Fe wnes i ddysgu ei fod yn ddyn gofalgar iawn, sydd wir yn poeni am y wlad ac yn poeni am y bobl."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd5 Mawrth 2019