1919: Y Cymry yn Versailles
- Cyhoeddwyd
Ar 28 Mehefin 1919 arwyddwyd Cytundeb Versailles, y ddogfen heddwch a oedd i fod i ddatrys yr anghydfod rhwng Yr Almaen a'r cynghreiriaid ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.
Roedd yna Gymry yn Versailles, palas crand 12 milltir i'r de o Baris, y diwrnod hwnnw. Yr amlycaf wrth gwrs oedd David Lloyd George, y Cymro a oedd yn Brif Weinidog Prydain rhwng 1916 a 1922.
Mae Dr Gethin Matthews o Brifysgol Abertawe yn arbenigwr ar hanes Cymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
"Dim ond cadoediad oedd wedi digwydd ym mis Tachwedd 1918, roedd cytundeb i stopio'r ymladd, ond dim byd ynglŷn â beth fyddai'n digwydd wedyn," meddai Dr Matthews.
'Amodau'r buddugwyr'
"Roedd pawb o'r 'ochr gywir' wedi troi lan yn Versailles yn gofyn am rywbeth. Roedd y rheiny a oedd wedi colli ddim yn cael unrhyw ran o'r trafod - roedd pobl yn cymryd yn ganiataol y bydda'n rhaid nhw jest derbyn amodau'r buddugwyr.
"Roedd pob cenedl yno'n meddwl bod nhw wedi aberthu mwy na rhai eraill, ac yn teimlo dylai nhw gael eu gwobrwyo. Gyda chymaint o bobl o wahanol wledydd yno roedd yn amhosib cael unrhyw drefn ar bethau - roedd pawb yn gweiddi dros ei gilydd.
"Yn y pen draw yn lle cael unrhyw drafodaethau gyda llwyth o bobl, cafodd pethau eu setlo rhwng tri dyn; Arlywydd America Woodrow Wilson, Prif Weinidog Ffrainc Georges Clemenceau, ac wrth gwrs David Lloyd George, Prif Weinidog Prydain. Roedd Vittorio Orlando o'r Eidal yno hefyd ond roedd e i'w raddau wedi ei neilltuo o'r trafodaethau pwysig."
"Roedd Clemenceau yn Ffrancwr gwladgarol, ac roedd e eisiau sicrhau y byddai yna byth gyfle yn y dyfodol i'r Almaen fod yn bwerus eto, ac ymosod ar Ffrainc. Roedd e eisiau cosbi'r Almaen.
"Roedd gan Woodrow Wilson ddelfryd y dylai pob gwlad yn Ewrop gael rhywfaint o hunanreolaeth. Wrth gwrs doedd hynny ddim yn berthnasol i bobl o gyfandiroedd eraill - roedd disgwyl iddyn nhw dderbyn beth roedd America a phwerau Ewrop yn dweud wrthyn nhw."
Felly roedd tensiwn yn syth rhwng y dyn a oedd eisiau cosbi'r Almaen a'r dyn a oedd eisiau bod yn deg i bawb, gan gynnwys yr Almaen.
Meddai Dr Matthews "Roedd Lloyd George yn gwbl allweddol, gan mai fe oedd y dyn a oedd trio dod a nhw i gyfaddawdu," meddai Dr Matthews.
Lloyd George, 'y bos'
Ond beth oedd barn bobl o Brif Weinidog Prydain ar y pryd?
"Roedd Lloyd George ar bedestal, doedd neb yn gallu cyffwrdd ag e, ac yn enwedig yng Nghymru doeddet ti ddim yn cael cwestiynu Lloyd George - fe oedd y bos."
"Roedd yna etholiad cyffredinol ychydig wedi'r cadoediad ac fe ysgubodd Lloyd George drwy hwnna, gyda phapurau Cymru'n dweud 'mae Lloyd George wedi ennill y rhyfel, nawr mae e'n mynd i ennill yr heddwch'."
Cytundeb deg?
"Roedd ganddyn nhw'r dewis o naill ai bod yn ofnadwy o llym ar yr Almaen a'u cadw nhw i lawr a'u cosbi nhw drwy gymryd eu harian ac adnoddau. Neu trin yr Almaen ar lefel partneriaeth gydag ychydig bach mwy o barch, a'u cosbi am gyfnod. Yn fras, fe aethon nhw lawr y canol - dim rhy llym i gadw'r Almaen lawr ond eto ddim yn gymedrol i alluogi'r Almaen i symud ymlaen."
"Rhaid dweud bod y syniad bod y cytundeb yn un llym yn anghywir - doedd e ddim byd i'w gymharu â beth ddigwyddodd i'r Almaen wedi'r Ail Ryfel Byd yn 1945, lle cafodd yr Almaen ei rhannu yn bedair gwlad. Wedi Versailles fe gollodd Yr Almaen dipyn o dir, ond roedd dal yn un wlad.
"Beth oedd yr Almaen ddim yn fodlon ei dderbyn oedd y war guilt clause yn dweud mai nhw oedd ar fai am y rhyfel. Wrth gwrs mi roedden nhw, ond roedd e'n cael ei ystyried fel sarhad gan yr Almaenwyr.
"Bymtheg mlynedd yn ddiweddarach pan oedd y sefyllfa economaidd wedi gwaethygu roedd e'n hawdd i Adolf Hitler bwyntio'r bys at Gytundeb Versailles a dweud y dylir cael gwared ar y staen ar yr anrhydedd."
Goblygiadau i Gymru
"Y peth allweddol yw, 'dy ni yng Nghymru yn licio meddwl am Lloyd George fel yr unig Gymro i fod yn Brif Weinidog Prydain - ond doedd e ddim yn cynrychioli Cymru, roedd e'n cynrychioli buddiannau'r Ymerodraeth Brydeinig. Roedd Prydain yn cymryd tiroedd gan yr Almaen yn Affrica - diogelu'r ymerodraeth oedd prif ffocws Lloyd George.
"Wnaeth Lloyd George hefyd sicrhau 'iawndal dynol' i Brydain, gan fod sôn mai ond 'iawndal tir' fyddai'n cael ei dalu gan yr Almaen, a olygai arian i Wlad Belg a Ffrainc yn unig.
"Un o'r telerau yng Nghytundeb Versailles oedd bod Ffrainc yn cael glo gan yr Almaen am ddim. Ond cyn y rhyfel fe roedd Cymru yn allforio glo i Ffrainc, felly fe wnaeth y cytundeb effeithio economi Cymru yn syth. Dyma enghraifft o un o sgil-effieithiau anfwriadol y gytundeb - y fath o beth oedd ddim yn cael ei ystyried pan oedd cant a mil o bethau eraill i'w trafod."
Y Cymro 'hiliol'
Prif Weinidog Awstralia ar y pryd oedd Billy Hughes; ei dad o Ynys Môn a'i fam o Lansanffraid. Roedd Hughes yn rhan o'r trafodaethau yn Versailles, ond fel awgrymai Dr Matthews, efallai na ddylai Cymry fod mor falch o'i hanes.
"Mae'r Cymry weithiau'n meddwl 'o Billy Hughes, Cymro, boi clên!' Ond na, dyn cas a hiliol oedd e! Roedd e'n cefnogi The White Australia policy - polisi cadw pobl oedd ddim yn wyn rhag dod i Awstralia. Aeth mas o'r ffordd yn y trafodaethau yn Versailles i fod yn gas i'r Japaneaid.
"Roedd Japan wedi dod lan 'da'r awgrym y dylir cael datganiad yng Nghytundeb Versailles fod pob hil yn gyfartal, ac na ddylai bod rhagfarn yn erbyn pobl doedd ddim yn wyn, ond roedd Billy Hughes yn dadlau yn erbyn hyn.
"Mae'r ffaith yr oedd yn gallu siarad dipyn o Gymraeg yn gwneud i ni edrych arno mewn ffordd garedig, ond roedd e'n foi lletchwith iawn a oedd yn edrych ar ôl buddiannau Awstralia yn unig - fel cymryd rheolaeth dros New Guinea." (Fel rhan o Gytundeb Versailles roedd New Guinea dan reolaeth Awstralia o 1920 tan 1975).
Yn y cyfnod yma roedd Thomas Jones o'r Rhymni, un o'r gweision sifil mwyaf dylanwadol o'i gyfnod, yn gweithio'n agos gyda Lloyd George, a chyda'r tri Phrif Weinidog a'i ddilynodd.
Felly, roedd yna Gymry yn chwarae rhan flaenllaw yn y cyfnod allweddol o hanes, a wnaeth lunio trywydd Ewrop, a'r byd yn yr ugeinfed ganrif.
Hefyd o ddiddordeb: