Beth ddigwyddodd i gadeiriau coch yr Arwisgo?

  • Cyhoeddwyd
Margaret Haines gyda'i chadair cochFfynhonnell y llun, Sgript
Disgrifiad o’r llun,

Mae cadair goch Margaret Haines yn atyniad ar gyfer ymwelwyr

Yn ystod Seremoni Arwisgo'r Tywysog Charles yng Nghastell Caernarfon yn 1969 cafodd y gwesteion eistedd ar gadeiriau coch oedd wedi eu cynllunio gan yr Arglwydd Snowdon. Wedi'r digwyddiad, daeth cyfle i brynu'r cadeiriau am swm o £12 ac aeth dros 4,000 ohonyn nhw ar werth.

Ond ble mae'r cadeiriau erbyn heddiw? Ac ydy eu cyflwr a'u lleoliad yn awgrymu beth yw barn eu perchnogion am yr Arwisgo a'r Frenhiniaeth?

Rebecca Hayes aeth ar drywydd tynged rhai o'r cadeiriau ar gyfer y rhaglen Canfod y Cadeiriau Coll ar BBC Radio Cymru.

Lle anrhydeddus

Yng nghartref Margaret a Bobi Haines, mae un o gadeiriau coch yr Arwisgo yn cael lle anrhydeddus yn y lolfa (uchod).

Er fod Bobi yn westai yn y seremoni, penderfynodd y ddau beidio prynu'r gadair ar y pryd a gwario'r arian ar docynnau i'r Investiture Ball yn lle.

Roedd hi'n rhyw ddegawd yn ddiweddarach cyn i gadair goch gyrraedd y tŷ o'r diwedd.

"Cael y gadair wnes i'w hedrych ar ei hôl hi gan fod y perchennog yn symud tŷ. Ond doedd 'na ddim lle iddi yn y tŷ newydd," meddai Margaret.

Yn ôl Margaret mae ymwelwyr tramor â'i chartref yng Nghaernarfon bob amser yn awyddus i gael tynnu eu llun yn y gadair.

"Dwi'n falch ei bod hi yma," meddai.

Lle amlwg

Hanner canrif yn ôl, roedd Eric Davies, o Geredigion, yn cynrychioli ieuenctid Cymru yn seremoni'r Arwisgo.

"Buon ni yna am orie cyn bod y teulu Brenhinol yn dod. Alla i byth anghofio'r sêt - mae'n siâp i arni," meddai.

Cyrhaeddodd cadair Eric mewn bocs ar ffurf flat-pack ac ers hynny mae wedi cael lle amlwg yng nghyntedd ei gartref. Ond a fyddai'n mynychu digwyddiad tebyg pe bai'n cael gwahoddiad heddiw?

"Byddwn," meddai, "achos wi'n teimlo erbyn hyn mai nhw (y teulu Brenhinol) sy'n gwasanaethu ni, nid ni sy'n gwasanaethu nhw."

Ffynhonnell y llun, Sgript
Disgrifiad o’r llun,

Eric Davies gyda'i gadair goch

Llechu yn yr atig

Mae'n stori wahanol yng nghartref Richard a Dana Edwards. Hel llwch yn yr atig mae'r ddwy gadair wnaethon nhw eu hetifeddu gan dad Richard, a fynychodd yr Arwisgo yn ei rôl fel Uchel Siryf.

"Fydden i'n ddigon hapus i'w gweld nhw lawr llawr," meddai Richard. "Rhywbeth o ochr fy nheulu i yw e ac o'n i'n blês iawn bod fy nhad wedi bod yn Uchel Siryf ar y pryd. Felly mae 'na gysylltiad fan hyn sy'n mynd nôl i 1969."

Mae Dana yn cydnabod bod y cadeiriau yn ddarn o hanes, ond bydde hi ddim yn dewis eu harddangos nhw.

"Os ydy Richard yn mynnu cadw nhw, ma' hynny'n iawn gyda fi.

"Ond bydden i ddim yn dewis eu harddangos nhw. Fi ond yn arddangos pethau fi'n falch ohonyn nhw a dwi ddim yn falch o'r Arwisgiad yng Nghaernarfon," meddai.

"Eu gwerthu nhw a rhoi'r arian i Gymdeithas yr Iaith," fyddai ei dymuniad hi.

Ffynhonnell y llun, Fox Photos
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd miloedd o'r cadeiriau coch eu creu ar gyfer arwisgiad y Tywysog Charles yn 1969

Etifeddiaeth

Cadair wedi ei hetifeddu gan ei ewythr yw'r un fu'n addurno cyntedd cartref John Tudno Williams.

"'Doedd hi ddim yn gadair ddefnyddiol iawn nac yn gyffyrddus iawn chwaith," meddai John.

Bellach mae hi wedi ei throsglwyddo i ddwylo'r genhedlaeth nesaf, ac yn byw yng nghartref ei ferch yng Nghaerdydd.

Mae gan Mr Williams fab a merch, ond yn ôl Mr Williams, doedd dim dadlau rhwng y ddau amdani.

"Doedd gan fy mab ddim diddordeb yn y gadair," meddai.

O dan y forthwyl

Ffynhonnell y llun, Sgript

Un sydd wedi eistedd mewn nifer o gadeiriau coch yr Arwisgo - er na fu'n berchen ar un erioed - yw'r arwerthwr hen greiriau David Rogers Jones.

"Ffawydd yw'r pren ac mae eu steil yn syml a chlasurol," meddai Mr Jones. "Beth sy'n bwysig iawn yw cyflwr y glustog. Os ydy hi wedi rhwygo neu baeddu, mae'n dod â'r pris i lawr."

Mae sawl cadair wedi mynd o dan forthwyl cwmni Rogers Jones & Co. ym Mae Colwyn, ac o'u gwerthu yn eu bocs a'u cyflwr gwreiddiol, maent wedi sicrhau prisau o dros £300.

Ar y goelcerth

Tynged wahanol oedd yn wynebu'r cadeiriau ddaeth Cai Larson o hyd iddyn nhw rhyw 20 mlynedd yn ôl.

"Wedi prynu tŷ yng Nghaernarfon daethon ni o hyd i ddwy gadair goch yn y llofft ynghyd â phob math o paraphernalia yr Arwisgo," esboniodd Cai. "Cwpwl mewn oed oedd wedi bod yna o'n blaenau ni ac mi oedden nhw wedi marw heb deulu agos.

"Oedd y wraig yn deud 'tha fi falle bod rhein yn werth rhywbeth i rhywun ond o'n i'n meddwl na, fasa neb â diddordeb ynddyn nhw.

"Dwi wedi gwneud camgymeriadau ariannol gwaeth cyn a wedyn - ond dwi eithaf balch mewn ffordd nad ydyn nhw gen i, i fod yn onest."

Hefyd o ddiddordeb: