'Angen cadw cyffyrdd M4 Casnewydd ar agor' yn ôl AC

  • Cyhoeddwyd
M4Ffynhonnell y llun, Geograph/Lewis Clarke
Disgrifiad o’r llun,

Mae awgrym wedi bod i gau cyffyrdd 25 a 26 yn rhannol a chau cyffordd 27 yn llwyr

Fe allai cau cyffyrdd ar draffordd yr M4 yng Nghasnewydd gynyddu'r problemau traffig sydd eisoes yn effeithio ar y ddinas, yn ôl AC Llafur.

Dywedodd Jayne Bryant nad yw'r holl draffig sy'n defnyddio cyffyrdd Casnewydd yn dod o'r ddinas ei hun.

Mae comisiwn yn ymchwilio i gynlluniau gwahanol i'r ffordd liniaru o amgylch y ddinas, yn dilyn y cyhoeddiad yn gynharach yn y mis na fyddai honno'n digwydd.

Mae cau cyffyrdd yn un cynllun sydd wedi'i awgrymu yn y gorffennol, ac mae'n debygol o gael ei ystyried gan y comisiwn.

Fe wnaeth y Prif Weinidog Mark Drakeford gefnu ar y cynlluniau £1.6bn ar gyfer ffordd liniaru'r M4 oherwydd y gost a'r effaith ar Wastadeddau Gwent.

Daeth hynny er i'r archwilydd cynllunio diweddar, Bill Wadrup, ddweud bod "achos cryf" dros fwrw 'mlaen â'r ffordd.

Roedd cau cyffyrdd yn awgrym gan drigolion lleol - un o nifer gafodd eu hystyried a'u gwrthod gan Mr Wadrup.

'Bywyd yn fwy anodd'

Yr awgrym oedd newydd y drefn i gau cyffyrdd 25 a 26 yn rhannol a chau cyffordd 27 yn llwyr - cynllun fyddai'n costio £10m.

Clywodd yr ymchwiliad cyhoeddus bod 22% o'r traffig ar gyffordd 27 yn gerbydau sy'n ymuno ac yna'n gadael yr M4 o fewn y ddinas.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jayne Bryant y byddai cau cyffyrdd yn "gorfodi mwy o draffig ar ffyrdd dinesig eraill"

Dywedodd Ms Bryant y byddai cau cyffordd "ond yn gwneud bywyd yn fwy anodd i fy etholwyr a'r rheiny yng Nghaerffili, Torfaen a Rhisga".

"Fy mhryder i yw y bydd yn gorfodi mwy o draffig ar ffyrdd dinesig eraill yng Nghasnewydd," meddai, gan ddweud mai nid gyrwyr o Gasnewydd yn unig sy'n defnyddio cyffyrdd y ddinas.

"Mae 'na draffig yn dod o rannau eraill o Gymru, boed hynny'n bobl o ochrau Cwmbrân yng nghyffordd 26, neu gyffordd 27 sy'n cael llawer o draffig o Rhisga."

Yn ei adroddiad dywedodd Mr Wadrup y byddai'r cynllun cau cyffyrdd yn lleihau nifer y cerbydau ar yr M4 o 5% yn unig, ac y byddai'n cynyddu'r traffig ar ffyrdd eraill yn y ddinas.