Tasglu Ford yn cwrdd am y tro cyntaf ers cadarnhad cau
- Cyhoeddwyd
Mae tasglu newydd i gefnogi gweithwyr Ford yn cynnal ei gyfarfod cyntaf ddydd Llun wedi'r cyhoeddiad y bydd y ffatri yn cau flwyddyn nesaf.
Bydd 1,700 o swyddi yn cael eu colli.
Cadeirydd y tasglu ydy'r Athro Richard Parry-Jones, cadeirydd Fforwm Modurol Cymru.
Roedd disgwyl cynrychiolwyr o Ford, Llywodraeth Cymru, y Swyddfa Gymreig, undebau, y cyngor lleol ac eraill yn y cyfarfod.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Bwriad y tasglu yw:
Cynorthwyo gweithwyr yn y ffatri a'r gadwyn gyflenwi;
Edrych ar bosibilrwydd tymor hir ar gyfer y safle a denu buddsoddiad newydd;
Bwrw golwg ar yr effaith ehangach ar y gymuned.
Mae'r tasglu yn cael ei noddi ar y cyd gan Weinidog yr Economi, Ken Skates ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns.
Dywedodd Mr Skates: "Rydyn ni wedi gweld pa mor lwyddiannus y gall tasglu fel hyn fod yn y dasg o gyfuno sgiliau â chyfleon eraill yng Nghymru ac mae'n hynod bwysig bod y tasglu hwn yn helpu busnesau sy'n ddibynnol ar Ford i oroesi ac i symud ymlaen yn hyderus wedi'r fath ergyd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2019