Cyhuddo dyn 42 oed o lofruddiaeth yn Llanelli

  • Cyhoeddwyd
Andre Yan IrwinFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Andre Irwin ei ddarganfod yn ystod oriau mân fore Sadwrn

Mae dyn 42 oed o Aberafan wedi'i gyhuddo o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dyn yn Llanelli.

Bydd Justin Ravenhill yn ymddangos o flaen ynadon Llanelli fore Mawrth wedi'i gyhuddo o lofruddio Andre Irwin, 47, yn oriau mân fore Sadwrn.

Cafodd Mr Irwin ei ddarganfod wedi ei anafu yn Coleshill Terrace, Llanelli cyn marw'n ddiweddarach yn yr ysbyty.

Mae teulu Mr Irwin yn parhau i dderbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.