Abertawe'n dathlu: cerdd arbennig

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Cerdd arbennig gan Aneirin Karadog i nodi 50 mlynedd ers rhoi statws dinas i Abertawe

Hanner can mlynedd yn ôl, roedd Abertawe'n dathlu derbyn statws dinas.

Ar 3 Gorffennaf 1969 safodd y Tywysog Charles ar risiau Neuadd y Ddinas i gyhoeddi statws newydd dinesig i'r lle a alwyd unwaith yn "dref hyll, hyfryd".

I ddathlu'r achlysur mae'r bardd Aneirin Karadog wedi ysgrifennu cerdd arbennig i Cymru Fyw i dalu teyrnged i Abertawe, ei hanes a'i rhinweddau.

Diolch i Pippa Carvell a Phrifysgol Abertawe am rannu eu lluniau.

Tonnau'r Bae

Yn Abertawe, y llanw a'r trai

yw'r ana'l fu'n ei chynnal hi cyhyd

a'i mynd a'i dod fel y tonnau'n y bae.

Y porth i'r Deheubarth a phêl-droed frau

rhwng Llychlynwyr a Normaniaid yn fflyd

a'i trodd yn Swansea y llanw a'r trai.

Ganed hi o'r newydd dan gusan grai

â'r copor a'r glo'n rhoi bysedd ynghyd

a'r holl fynd a'r holl ddod ar donnau bae

tref hyll a hardd yn creu bardd fu'n gweld mai

sgwaryn yw hi yng ngêm gwyddbwyll y byd

a blitz Abertawe'n llanw a thrai.

O'r llwch tyfodd dysg, eginodd ei thai

yn ddinas o ddoniau sy'n blodeuo o hyd

ac mae ei mynd a'i dod, fel tonnau'r bae

yma i aros. Ac yn iaith ei tho iau

o'r hen gwm i'r Gŵyr, yn straeon y stryd,

bydd yn Abertawe lanw a thrai

sy'n mynd a dod fel y tonnau'n y bae.

Hefyd o ddiddordeb