Heddlu'n ymchwilio i fandaliaeth clwb rygbi yn Sir Gâr
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Dyfed Powys yn ymchwilio wedi i fandaliaid achosi difrod mawr i adeilad clwb rygbi yn Sir Gaerfyrddin.
Daeth Clwb Rygbi Penygroes ger Cross Hands i wybod am y fandaliaeth yn gynharach yn yr wythnos, ac yn ôl y cadeirydd nid dyma'r tro cyntaf i rywun dorri mewn i'r safle.
Er bod yr adeilad wedi bod ynghau ers 2016, mae hen dlysau, cwpanau a lluniau - sy'n adlewyrchu hanes y clwb ers ei sefydlu yn 1891 - yn parhau y tu mewn.
Er y difrod, dywedodd y cadeirydd Neil Armstrong, 51, y byddai'n well ganddo weld y rhai sy'n gyfrifol yn ymuno â'r clwb er mwyn dysgu disgyblaeth, yn hytrach na chael eu herlyn.
"Maen nhw wedi torri mewn o'r blaen - roedd gennym ni hen stoc, oedd allan o ddyddiad, ac fe wnaethon nhw dorri mewn ac yfed hwnnw," meddai Mr Armstrong.
"Mae'n ymddangos eu bod wedi dod nôl mewn eto nawr, ond y tro hyn maen nhw wedi dod gyda'u cwrw eu hunan."
'Llanast llwyr'
Dywedodd Mr Armstrong bod y sawl sy'n gyfrifol am y difrod wedi torri dwy ffenest er mwyn cael mynediad i'r adeilad.
"Maen nhw wedi torri'r lliain ar y byrddau snwcer ac wedi dinistrio'r hen arteffactau a'r trophy cabinets," meddai.
"Mae rhai o'r tlysau wedi cael eu dwyn, maen nhw wedi torri'r gwydr ym mhob llun, difrodi hen fat criced a thorri platiau.
"Maen nhw wedi gwneud llanast llwyr o'r lle."
Bu'n rhaid cau adeilad y clwb yn 2016 am ei fod yn gwneud colled, a daeth y tîm i ben bryd hynny hefyd, cyn dychwelyd hanner ffordd drwy'r tymor yn 2017-18.
Ond flwyddyn a hanner yn unig ers ailddechrau, mae'r tîm wedi llwyddo i orffen ar frig Adran 3 C Canol y Gorllewin y tymor yma ac ennill dyrchafiad i Adran 3 B.
'Dysgu mwy ar gae rygbi'
Mae Mr Armstrong, sydd wedi bod yn rhan o'r clwb ers 33 o flynyddoedd, yn annog y rhai sy'n gyfrifol am y difrod i ymuno â'r tîm er mwyn "rheoli eu rhwystredigaeth".
"Mae bod yn rhan o dîm yn dysgu chwaraewyr ifanc a hŷn i barchu eiddo pobl eraill a pharchu hen arteffactau," meddai.
"Dwn i ddim a fyddai'n gwneud unrhyw wahaniaeth i'w herlyn nhw.
"Rwy'n meddwl y gallwn i ddysgu mwy iddyn nhw ar gae rygbi na'r hyn fydden nhw'n ei ddysgu trwy gael eu herlyn."
Dywedodd Heddlu Dyfed Powys eu bod wedi derbyn adroddiadau ddydd Mawrth bod rhywun wedi torri mewn a fandaleiddio Clwb Rygbi Penygroes, a'u bod yn ymchwilio i'r digwyddiad.
Mae'n nhw'n annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â'r llu trwy ffonio 101.