Hedfan dyn ifanc i'r ysbyty ar ôl disgyn ar y Gogarth

  • Cyhoeddwyd
GogarthFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar y Gogarth brynhawn Mercher

Mae dyn 18 oed wedi cael ei hedfan i'r ysbyty ar ôl iddo ddisgyn mewn i chwarel ar y Gogarth yn Llandudno.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad am 14:39 brynhawn Mercher.

Bu'n rhaid i'r gwasanaeth ambiwlans ofyn am gymorth gan wylwyr y glannau oherwydd bod y dyn mewn lleoliad oedd yn anodd i'w gyrraedd.

Cafodd hofrennydd gwylwyr y glannau o Gaernarfon ei alw i'r digwyddiad ac fe gafodd y dyn ei gludo i'r ysbyty yn Lerpwl.

Does dim gwybodaeth eto am gyflwr y dyn ifanc.