Cludo cerflun anferth o Dewi Sant o Gymru i Lydaw

  • Cyhoeddwyd
cerflun dewi sant

Mae cerflun anferth o Dewi Sant wedi'i wneud o wenithfaen yn dechrau taith 400 milltir o Gymru i Lydaw.

Fe gymerodd hi wyth mis i'w gwblhau, ac mae'n sefyll dros dri metr o daldra ac yn pwyso tua phum tunnell.

Cafodd ei fendithio mewn seremoni arbennig ym mhentre' Llansawel yn Sir Gaerfyrddin gan Esgob Tyddewi, Joanna Penberthy, oedd yn arfer bod yn offeiriad yn yr ardal.

Fe fydd y cerflun nawr yn gadael gorllewin Cymru ar gefn lori cyn teithio dros y dŵr ar fferi o Plymouth i Roscoff yn Ffrainc.

Cafodd yr Esgob Penberthy ei chodi i'r awyr mewn cerbyd fforch godi arbennig er mwyn iro talcen y cerflun ag olew fel rhan o'r fendith.

Disgrifiad o’r llun,

Yr Esgob Joanna Penberthy yn cael ei chodi at frig y cerflun

Cyn y seremoni fe gyfaddefodd yr Esgob ei bod yn teimlo'n nerfus, ond y byddai'r fasged ar flaen y cerbyd yn ei chadw'n "ddigon diogel".

"Mae'n bleser mawr i allu bendithio'r cerflun arbennig yma, ac yn berthnasol iawn oherwydd yn ystod cyfnod y pla yng Nghymru, mae'n debyg bod Dewi wedi mynd i Lydaw gyda'i fam er mwyn cael lloches," meddai.

"Mae 'na gymaint o gysylltiadau rhwng y ddwy wlad ac mae'n wych bod y cerflun yn mynd o Gymru i Lydaw er mwyn atgoffa pobl am Dewi Sant ac Oes y Seintiau."

Bydd y cerflun yn cael ei arddangos mewn sawl lleoliad yn Llydaw, cyn cael cartref parhaol ym mharc cerfluniau enwog Valle Des Saints, ble mae dros gant o gerfluniau o seintiau Celtaidd i'w gweld.

Cerflun nawddsant Cymru fydd y diweddaraf i gyrraedd y parc, ac fe fydd yn cael ei urddo mewn seremoni ar 11 Awst.

Disgrifiad o’r llun,

Geiriau nawddsant Cymru ar ochr y cerflun

Crëwyd y darn gan y cerflunydd Paul Kincaid yn ei weithdy ym mhentre' Llansawel, ble mae hefyd yn warden yn yr eglwys leol.

Ac fe gyfaddefodd Mr Kincaid fod y gwaith wedi bod yn her a hanner.

"Yn wreiddiol, roedden nhw am i mi ddefnyddio gwenithfaen Cymreig, ond does dim llawer ohono ar gael - mae'n galed iawn ac yn ddrud," esboniodd.

"Yn y diwedd, roedd rhaid i mi ddefnyddio gwenithfaen o Gernyw. Dwi'n falch iawn nawr o'i weld wedi gorffen ond mae wedi bod yn dipyn o her."

Ar ochr y cerflun mae dyfyniad gan Dewi Sant - 'Arglwyddi, frodyr a chwiorydd, byddwch lawen a chedwch eich ffydd a'ch cred a gwnewch y pethau bychain a welsoch ac a glywsoch gennyf fi'.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cerflun dros dri metr o daldra

Dywedodd y ficer lleol, y Parchedig Delyth Wilson, bod y geiriau yn amserol iawn.

"Mae'n hen bryd bod y byd i gyd yn cael gwbod am Dewi - mae'n byd ni mor brysur, a ni ishe gwneud y pethe mawr a dod â sylw i ni'n hunen," meddai.

"Mae angen cofio am wneud y pethau bychain."