Teyrngedau i ail weithiwr rheilffordd fu farw
- Cyhoeddwyd

Roedd Gareth Delbridge (chwith) a Michael Lewis yn gwisgo offer i amddiffyn eu clyw
Mae teulu wedi rhoi teyrnged i ail weithiwr rheilffordd fu farw ar ôl cael ei daro gan drên ger Port Talbot ddydd Mercher.
Mewn datganiad dywedodd teulu Michael 'Spike' Lewis, 58 oed o Ogledd Corneli, ei fod yn "adnabyddus i bawb" a bod "pawb yn ei garu".
"Byddwn am ddiolch i bawb am eu cefnogaeth yn y cyfnod anodd yma ac am ofyn i gael llonydd nawr er mwy galaru," meddai'r teulu.
Mae teyrngedau hefyd wedi eu rhoi i'r gweithiwr arall fu farw yn y digwyddiad.
Mae teulu Gareth Delbridge, 64 oed o Fynydd Cynffig, hefyd wedi rhoi teyrnged iddo gan ei alw'n "dad, gwr, brawd a thad-cu cariadus".
"Roedd Gareth wrth ei fodd â bywyd, gwaith a threulio amser ar wyliau - ond yn fwy na hynny ei deulu.
"Rydym yn hynod drist o fod wedi colli Gaz mewn amgylchiadau mor drasig, fe fydd e a Spike yn cael eu colli'n fawr gan eu teuluoedd a ffrindiau."

Yn ôl teulu Gareth Delbridge, roedd wrth ei fodd yn mynd ar ei wyliau
Roedd Mr Delbridge yn ddyn "ffantastig oedd wastad â gwên ar ei wyneb", meddai ei gyd-aelodau yn y clwb rygbi lleol.
Fe wnaeth Clwb Rygbi Mynydd Cynffig ei ddisgrifio fel "un ohonom ni".
"Rydyn ni'n estyn ein cydymdeimladau dwys i deulu Gareth yn ystod y cyfnod hynod drist yma," meddai'r clwb mewn neges ar Twitter.
Yn ôl Gary Chappell, trysorydd y clwb, roedd "Gazza wastad â gwên ar ei wyneb ac amser i ddweud helo wrth bawb".
"Roedd yn gefnogwr brwd o glwb Cynffig ac yn wyneb cyfarwydd yma," meddai.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng gorsafoedd Y Pîl a Phen-y-bont
Dywedodd Heddlu Trafnidiaeth Prydain fod y ddau ddyn gafodd eu lladd o bosib heb glywed y trên yn nesáu am eu bod yn gwisgo offer i amddiffyn eu clyw.
Cafodd un person arall ei drin am sioc ar y safle.
Roedd rhan o'r llinell reilffordd ar gau am gyfnod hir ddydd Mercher, gyda threnau'n cael eu dargyfeirio neu ohirio, a bysus yn cludo teithwyr rhwng Abertawe a Chaerdydd.
Dywedodd Ysgrifennydd Trafnidiaeth y DU, Chris Grayling, y byddai ymchwiliad llawn i'r digwyddiad, ac y byddai'n "sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu".
Mae undeb yr RMT, sy'n cynrychioli gweithwyr y rheilffyrdd, wedi dweud y dylid atal y math o waith oedd yn digwydd ym Mhort Talbot nes bod yr holl ffeithiau wedi dod i'r fei.
"Yn ogystal â mynnu atebion gan Network Rail ac atal unrhyw waith tebyg am y tro tan fod yr holl ffeithiau i law, fe fydd yr undeb yn cefnogi ein haelodau a'u teuluoedd," meddai Mick Cash, ysgrifennydd cyffredinol yr undeb.
Mae cyfarwyddwr Network Rail yng Nghymru, Bill Kelly wedi cadarnhau y bydd y cwmni'n cydweithio'n llawn gyda Heddlu Trafnidiaeth Prydain a'r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffordd.
"Rydym yn meddwl am deuluoedd ein cydweithwyr ac aelodau o staff fydd wedi eu heffeithio gan y golled drasig yma, a byddwn yn cynnig yr holl gefnogaeth y gallwn ni," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2019