Esgyrn olympwraig yn 'rhy wan' i allu rhedeg marathon
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-enillydd medal aur Olympaidd wedi rhybuddio pobl am beryglon gorhyfforddi a pheidio amrywio patrymau ymarfer.
Yn fuan ar ôl i'r seiclwr Dani Rowe ymddeol o'r gamp yn dilyn Gemau'r Gymanwlad y llynedd, penderfynodd ei bod am gymryd rhan ym Marathon Llundain.
O fewn misoedd o ddechrau rhedeg roedd Rowe wedi datblygu dau ysigiad (stress fracture) yn ei choes dde, ac roedd un yn dechrau ymddangos yn ei choes chwith.
"Roeddwn i eisiau dechrau rhedeg yn syth... doeddwn i byth yn meddwl na fyddai'r esgyrn yn gallu ymdopi," meddai.
Dywedodd arbenigwyr bod yr holl oriau o ymarfer ar gyfer seiclo yn golygu nad oedd ei hesgyrn wedi arfer â delio gyda thrawiadau, er bod dwysedd ei hesgyrn yn ymddangos yn arferol.
Mae'r Gwasanaeth Iechyd yn argymell fod pobl o bob oedran yn cymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n cryfhau'r esgyrn yn wythnosol, megis cerdded, rhedeg neu ddawnsio.
Dangosodd astudiaeth, gafodd ei gyhoeddi yn y BMJ Open Sport and Exercise Medicine Journal y llynedd, bod dwysedd mwynol esgyrn seiclwyr yn llai o'i gymharu â rhedwyr.
Yn ogystal, daeth yr astudiaeth i'r canlyniad bod gan y seiclwyr gafodd eu profi esgyrn teneuach na'r rhedwyr.
'Gwthio i'r eithaf'
Ers i Rowe droi yn 18 oed, mae hi wedi ceisio gwneud cyn lleied â phosib ar ddiwrnodau seibiant. Roedd hi hyd yn oed yn gwisgo dyfais fyddai'n cadw cofnod o'i chamau bob dydd.
Wrth baratoi ar gyfer Gemau Olympaidd Llundain yn 2012 byddai cerdded 1,000 cam mewn diwrnod wedi bod yn "ormod".
"Roedd pobl wastad yn deud wrthych chi beidio â sefyll pan fod modd eistedd, a pheidiwch ag eistedd os fedrwch chi orwedd ac roeddwn i wastad yn gwthio hynny i'r eithaf," meddai.
"Prin iawn wnes i gerdded am 10 mlynedd... Y mwyaf o gerdded i mi wneud oedd o'r car i'r felodrom."
Mae Rowe bellach yn dweud y byddai hi'n cynghori eraill i amrywio eu patrymau hyfforddi.
"Dwi'n meddwl bod gwneud amrywiaeth o ymarfer corff yn well... roedd fy ffitrwydd i mor benodol ar gyfer seiclo, yna pe taswn i'n gwneud unrhyw beth arall byswn i mewn poen am ddyddiau," meddai.
Erbyn hyn mae hi'n cymryd rhan mewn sawl math gwahanol o ymarfer corff gan gynnwys bocsio a nofio, ond y gôl meddai hi yw cwblhau Marathon Llundain.
Ychwanegodd: "Mae'n rhaid i mi gymryd fy amser ac adeiladu'r ffitrwydd yn araf bach, felly gwneud hyfforddiant tebyg i 'couch to 5k' neu 'couch to 10k'.
"Dwi eisiau ei wneud o fwy nag erioed, a dwi'n credu mi wnâi ryw ddiwrnod, gobeithio blwyddyn nesaf."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2019