Dod adre o'r gwaith ar y 'car gwyllt '

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Chwarelwyr yn defnyddio car gwyllt yn 1935

Sut ydych chi'n dod adre o'r gwaith? Ar y bws, mewn car neu ar feic?

Mae'r clip yma gan British Pathé , dolen allanolo 1935 yn dangos sut roedd chwarelwyr yn ardal Ffestiniog yn dod adref o'r gwaith ers talwm.

Mae'r 'car gwyllt' wedi rhoi ei enw i Ŵyl Car Gwyllt sy'n cael ei chynnal ym Mlaenau Ffestiniog ar benwythnos 5-7 Gorffennaf gyda bandiau fel Anweledig, One Style MDV a Radio Rhydd yn chwarae.

Roedd y cerbyd bach yma wedi ei wneud o ddarn o bren wedi ei gysylltu wrth olwynion a pholyn.

Byddai'r chwarelwyr yn mynd i fyny'r inclên i'w gwaith yn y bore ar y tryciau llechi ac yn eistedd ar eu car gwyllt wedi ei osod ar y traciau i ddod yn ôl i lawr: pan fyddai'r gwaith yn dod i ben am 16:00 byddai tua 200 o weithwyr yn gwibio i lawr ar eu car.

Damweiniau

Roedd 'na frêc llaw ar gyfer slofi wrth gyrraedd y gwaelod, rhag i'r car fynd yn rhy wyllt!

Roedd y car gwyllt yn unigryw i chwarel Graig Ddu, gan nad oedd yr inclên yno yn rhy serth, a phob chwarelwr yn berchen ar ei gar ei hun gyda rhai wedi cerfio llythrennau eu henwau arno.

Yn ôl erthygl yng Nghylchgrawn Rheilffordd Ffestiniog fe fyddai rhai o'r chwarelwyr yn rhoi tro i'w cariadon ar y ceir hefyd, er nad oedd merched i fod i'w defnyddio yn swyddogol.

Rhoddwyd rheolau llym ar eu defnyddio gan awdurdodau'r chwarel wedi i rai defnyddwyr mwy dibrofiad a diofal gael eu lladd arnyn nhw.

Daeth y defnydd o'r car gwyllt i ben pan gaeodd y chwarel bedair blynedd ar ôl y clip yma yn 1939 ond mae 'na rai o'r hen gerbydau yn dal ym meddiant rhai o deuluoedd y chwarelwyr.

Hefyd o ddiddordeb: