Marwolaeth Llanbedr Pont Steffan: Dim camau pellach

  • Cyhoeddwyd
Katyarzyna PaszekFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Katarzyna Elzbieta Paszek ei chanfod gydag anafiadau difrifol ym mis Tachwedd 2018

Mae dyn gafodd ei arestio yn dilyn marwolaeth dynes yn Llanbedr Pont Steffan y llynedd wedi ei ryddhau heb unrhyw gamau pellach.

Cafodd y dyn 40 oed ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn sgil marwolaeth Katarzyna Elzbieta Paszek, 39, ar 8 Tachwedd.

Cafodd y dyn ei ryddhau ar fechnïaeth yn fuan wedyn, ond mae Heddlu Dyfed-Powys bellach wedi cadarnhau na fydd yn wynebu unrhyw gamau pellach.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu bod y penderfyniad yn dod yn sgil adroddiad patholegydd ac ymgynghoriad gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron.