Tour de France: Diwrnod da i Thomas yn y ras yn erbyn y cloc

  • Cyhoeddwyd
Geraint Thomas a Tim IneosFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yn ddiwrnod da ar y cyfan i Geraint Thomas a Thîm Ineos

Llwyddodd Tîm Ineos i ddod yn ail yn y ras yn erbyn y cloc i dimau, a hynny ar ail ddiwrnod y Tour de France.

Fe wnaethon nhw orffen mewn 29 munud ac 17 eiliad, oedd dros funud yn gynt na rhai o'r timau sy'n eu herio.

Mae'n golygu bod Geraint Thomas wedi adeiladu mantais glir o rai eiliadau dros sawl un o'r beicwyr sydd yn ceisio cipio'i goron.

Tîm Jumbo-Visma enillodd y cymal ar hyd strydoedd Brwsel, gan olygu bod Mike Teunissen yn aros yn y crys melyn am y tro.

Ennill amser

Yn wahanol i'r rhan fwyaf o gymalau eraill ar y Tour, roedd yr ail gymal yn un ble roedd timau'n rasio fesul un, a phob aelod yn cael yr un amser ar y cloc.

Fe aeth Tîm Ineos allan gyntaf, a gosod amser cyflym tu hwnt i'r timau eraill geisio ei gyrraedd.

Chawson nhw ddim eu trechu nes diwedd y diwrnod, pan lwyddodd Jumbo-Visma i'w trechu o 20 eiliad.

Disgrifiad,

All Geraint Thomas ennill y Tour de France unwaith eto?

Deceuninck-Quick-Step oedd yn drydydd, ond fe wnaeth sawl tîm mawr arall orffen tipyn ar ei hôl hi.

Mae'n golygu bod beicwyr fel Adam Yates, Thibaut Pinot, Jakob Fuglsang, Nairo Quintana a Richie Porte - rhai o'r enwau oedd wedi gobeithio herio Geraint Thomas yn y dosbarthiad cyffredinol - wedi colli eiliadau pwysig.

Ar y llaw arall roedd Steven Kruijswijk, un arall o'r rheiny allai gystadlu am y crys melyn, yn rhan o dîm buddugol Jumbo-Visma ac felly 20 eiliad o flaen Thomas.

Bydd trydydd cymal y ras ddydd Llun yn daith 211km o hyd rhwng Binche ac Epernay, ac yn un gymharol fflat.