Sut i gyrraedd yr Eisteddfod
- Cyhoeddwyd
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy ar gaeau Plas Tirion a Cilcennus, rhyw filltir i'r de o dref Llanrwst ar ochr ddwyreiniol yr A470.
Mae safle'r maes carafanau rhwng y Maes a'r dref ar ochr orllewinol yr A470 ac mae Maes B wedi'i leoli wrth ochr Ffordd Nebo i gyfeiriad y de-ddwyrain o ganol Llanrwst.
Cofiwch fod yna system unffordd dros dro ar waith yn nhref Llanrwst trwy gydol yr Eisteddfod ac mi fydd mesurau arbennig eraill yn eu lle sy'n cynnwys gwyriadau traffig yn Llanrwst a Betws-y-Coed.
Ceir
Mae meysydd parcio penodol i'w cael ar gyfer gyrwyr fydd yn cyrraedd o bob un o'r tri phrif gyfeiriad posib:
Traffig o gyfeiriad y de - safle ar ochr orllewinol yr A470 i'r de o Lanrwst
Traffig o'r gogledd-orllewin (A55 ac A470) - safle i'r gogledd o Lanrwst ar ochr ddwyreiniol yr A470
Traffig o gyfeiriad Abergele (A548) - safle sy'n cynnwys Ysgol Dyffryn Conwy a thir cyfagos ar Ffordd Nebo ar ochr ddwyreiniol y dref
Ymwelwyr anabl - ar gyfer ymwelwyr anabl sydd â bathodyn glas, mae parcio ar gael ger prif fynedfa Maes yr Eisteddfod.
Gall gyrwyr ddod o hyd i'r holl gyfarwyddiadau ar wefan swyddogol yr Eisteddfod Genedlaethol, dolen allanol.
Ac os ydych chi'n teithio i'r maes carafanau, mae yna hefyd gyfarwyddiadau penodol fan hyn, dolen allanol.
Trên a bws
Mae yna ddwy orsaf drenau yn y dref - sef Llanrwst a Gogledd Llanrwst. Dylai ymwelwyr i'r Eisteddfod fynd i orsaf Gogledd Llanrwst, ac o fanna bydd bws wennol yn galw yn yr orsaf i gyd-fynd ag amserlen y trenau.
Am wybodaeth ac amserlenni bysus, cysylltwch â Traveline Cymru, dolen allanol. Mae cwmni bysus Llew Jones, dolen allanol hefyd yn cynnig gwasanaethau i'r Eisteddfod, ac yn ôl, o nifer o lefydd o amglych Gogledd Cymru.
Cerdded a beicio
Mae llwybrau arbennig wedi'u cynllunio er mwyn i ymwelwyr fedru cerdded neu feicio yn hwylus rhwng y dref a'r maes, y maes carafanau a'r meysydd pebyll.
Hefyd o ddiddordeb:
Y manylion yn llawn i deithwyr ar wefan yr Eisteddfod, dolen allanol