Gweinidog Brexit: 'Dylai Llafur ymgyrchu dros aros'

  • Cyhoeddwyd
Jeremy Miles AM
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jeremy Miles y byddai Llafur Cymru yn ymgyrchu dros aros mewn unrhyw refferendwm arall

Dylai'r Blaid Lafur ymgyrchu dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd pe bai etholiad cyffredinol yn cael ei alw cyn Brexit, yn ôl prif gyfreithiwr Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Jeremy Miles y byddai buddugoliaeth i Lafur yn rhoi mandad i roi stop ar y broses o adael yr UE, heb fod angen refferendwm arall.

Fe wnaeth Llafur addo ddydd Mawrth y byddan nhw'n ymgyrchu dros aros pe bai pleidlais arall, os mai'r opsiynau eraill fyddai dim cytundeb neu "Brexit niweidiol y Torïaid".

Doedd y datganiad ddim yn manylu ar beth fyddai safbwynt y blaid mewn etholiad cyffredinol.

'Ymgyrchu dros aros'

Fe wnaeth cabinet yr wrthblaid gyfarfod fore Mawrth i drafod newid ei bolisi ar refferendwm arall.

Mae'r blaid wedi bod dan bwysau gan ei aelodaeth a ffigyrau blaenllaw i symud tuag at safbwynt sy'n fwy cefnogol o aros yn yr UE.

Fe wnaeth Llywodraeth Lafur Cymru newid ei safbwynt ym mis Mai i gefnogi pleidlais arall, wedi i'r blaid ddod yn drydydd yng Nghymru yn yr Etholiad Ewropeaidd.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jeremy Corbyn wedi bod dan bwysau i newid polisi ei blaid

Yn siarad ym Mae Caerdydd ddydd Mawrth dywedodd Mr Miles, y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit: "Rydyn ni wedi bod yn glir iawn fel llywodraeth y dylai aros fod ar y papur pleidleisio ar gyfer unrhyw refferendwm, a beth bynnag fydd yr opsiynau eraill byddwn yn ymgyrchu dros aros.

"Yn amlwg, byddwn yn gobeithio gweld hynny'n cael ei adlewyrchu ar draws y DU ond ein safbwynt ni fel Llywodraeth Lafur yng Nghymru yw hynny."

Ond ychwanegodd Mr Miles ei bod yn bosib na fyddai angen refferendwm arall am y gallai etholiad cyffredinol ateb yr un pwrpas.

"Pe bai gennych chi brif weinidog yn dod mewn yn ceisio sicrhau mandad yn yr etholiad cyffredinol am Brexit heb gytundeb, yn y sefyllfa yna rwy'n credu y dylen ni fel plaid fod yn dadlau dros aros yn ein maniffesto, yn hytrach na refferendwm arall," meddai.