Trafodaethau trawsbleidiol ar Brexit yn 'wastraff amser'

  • Cyhoeddwyd
Anna McMorrin ASFfynhonnell y llun, HoC
Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl "wedi cael llond bol gyda Brexit", yn ôl Anna McMorrin AS

Mae trafodaethau Brexit y blaid Lafur gyda'r Ceidwadwyr yn "wastraff amser llwyr", yn ôl un Aelod Seneddol.

Dywedodd AS Llafur Gogledd Caerdydd Anna McMorrin, sy'n cefnogi refferendwm arall, bod angen i'r wlad "symud ymlaen".

Fe ddechreuodd y trafodaethau trawsbleidiol dros fis yn ôl, ond does fawr o arwydd bod pethau yn symud yn eu blaen.

Ar ôl i gytundeb Brexit y Prif Weinidog gael ei wrthod tair gwaith gan y Senedd, mae'r ddwy blaid wedi ceisio canfod tir cyffredin.

Daw hyn wrth i 13 o gyn-aelodau o'r cabinet rybuddio Theresa May i beidio cyfaddawdu gyda Llafur drwy gytuno i aelodaeth o'r undeb tollau.

Polisi'r blaid Lafur ydi cefnogi refferendwm arall o dan amodau penodol.

Maen nhw'n dweud y bydda nhw'n mynnu pleidlais gyhoeddus arall os nad ydyn nhw'n gallu cael newidiadau i 'r cytundeb neu etholiad.

'Wedi cael llond bol'

Dywedodd Ms McMorrin: "Mae'r trafodaethau yma yn wastraff amser llwyr... ry'n ni'n gwybod bod cytundeb Theresa May wedi methu tair gwaith yn y Senedd.

"Mae Jeremy Corbyn wedi pleidleisio dros bleidlais gyhoeddus dair gwaith hefyd yn y Senedd."

Ychwanegodd: "Mae angen i unrhyw gytundeb fynd yn ôl i'r bobl er mwyn iddyn nhw roi eu barn. Dyna'r unig ffordd y gallwn ni ddod a'r wlad yn ôl at ei gilydd ar ôl y rhwygiadau dwfn yma.

"Ry'n ni gyd wedi cael llond bol gyda Brexit ar hyn o bryd. Rwy'n gwybod bod fy etholwyr a busnesau wedi cael llond bol. Mae angen i ni symud ymlaen."