Pa mor hen yw Gorsedd y Beirdd?

  • Cyhoeddwyd
Seremoni Eisteddfod 1977
Disgrifiad o’r llun,

Seremoni'r Orsedd yng Nghaerdydd yn 1977 gyda Morwyn y Fro a merched Dawns y Blodau a'r Archdderwydd yn ben

Mae'n cael ei weld gan lawer fel sefydliad sy'n graig o Gymreictod ond pa mor hen a thraddodiadol yw Gorsedd y Beirdd?

Yr Orsedd yw'r gymdeithas o feirdd, awduron, cerddorion, artistiaid a chyfranwyr eraill i'r iaith a'r diwylliant Cymraeg sy'n ymddangos yn eu gwisgoedd derwyddol yn yr Eisteddfod Genedlaethol bob blwyddyn.

Mae 10 Gorffennaf yn nodi 200 mlynedd ers i Orsedd y Beirdd gymryd rhan mewn eisteddfod yng Nghymru am y tro cyntaf, a hynny yng Nghaerfyrddin yn 1819.

Mae Gŵyl yr Orsedd, dolen allanol yn cael ei chynnal yn y dref i nodi'r pen-blwydd ar 8-13 Gorffennaf.

Ond mae'r seremonïau fel rydyn ni'n eu hadnabod heddiw, gyda'u pasiant a'u symboliaeth, yn fwy diweddar byth: cafodd Dawns y Blodau er enghraifft, ei dyfeisio yn 1936 gan y bardd Cynan.

Yr elfennau yma mae'r archdderwydd newydd, Myrddin ap Dafydd, wedi sôn am eu newid.

Ffrwyth dychymyg Iolo Morgannwg

Er bod hanes y derwyddon yn hynafol iawn, cafodd Gorsedd Beirdd Ynys Prydain ei sefydlu yn Primrose Hill, Llundain, neu Bryn y Briallu o roi'r enw hyfryd Cymraeg, yn 1792.

Syniad bardd, hanesydd, ffugiwr a dyn llawn dychymyg o'r enw Iolo Morganwg oedd yr Orsedd - dyn oedd â chant a mil o syniadau creadigol am hybu diwylliant Cymru.

Roedd eisiau dangos bod cysylltiad rhwng y Cymry cyfoes â diwylliant y Celtiaid a'r derwyddon hynafol.

Ei nod oedd cynnal hen draddodiad llenyddol Cymru.

Roedd hefyd yn gaeth i'r cyffur laudanum yn ôl yr haneswyr.

Mae'r syniad o eisteddfod yn hen iawn yn y traddodiad Cymraeg ond yn yr eisteddfod yng ngwesty'r Llwyn Iorwg, Caefyrddin, fis Gorffennaf 1819 y cysylltodd Iolo Morganwg ddefod Gorsedd y Beirdd gyda chadeirio'r bardd buddugol.

Sefydlwyd yr Eisteddfod Genedlaethol, yn 1860, ac ers hynny mae'r ddau sefydliad wedi bod yn gysylltiedig â'i gilydd.

Seremoni 'anghyfforddus'

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Gruffudd Owen ei fod yn "anghyfforddus" gydag elfennau o'i seremoni gadeirio yn 2018

Erbyn heddiw mae'r Orsedd yn arwain tair seremoni ar lwyfan yr Eisteddfod - y Gadair, y Goron a'r Fedal Ryddiaith.

Daeth y drafodaeth am foderneiddio'r seremonïau yn sgil sylwadau gan enillydd y Gadair yn 2018, y Prifardd Gruffudd Owen, a ddywedodd bod rhai elfennau o'r seremoni yn gwneud iddo deimlo'n anghyfforddus.

"Y syniad o Fam y Fro a Morwyn y Fro yn benodol," meddai.

"Hynny 'di fod gennych chi un wraig yna yn seiliedig ar y ffaith ei bod hi'n cenhedlu plant, ac wedyn fod ganddoch chi ferch sydd yn forwyn fel petai.

"Does 'na 'run dyn yna yn seiliedig ar hynny."

Mae'r ddawns flodau yn cael ei pherfformio gan tua 24 o ferched oedran ysgol gynradd mewn gwisgoedd gwyrddion a blodau yn goron yn eu gwallt gan gario tusw o flodau.

Mae'r ddawns yn cyfleu casglu blodau'r maes ac mae'r blodau yn cael eu hychwangu i'r Flodeuged, sef tusw o flodau sy'n cael ei chyflwyno gan Forwyn y Fro.

Mae'r tusw yn symbol o dir a phridd Cymru.

Ond yn 1936 y dyfeisiwyd y seremoni hon, a hynny gan Gofiadur yr Orsedd ar y pryd, Cynan - sef y bardd Albert Jones-Evans oedd hefyd yn frenhinwr brwd ac a ddaeth yn Archdderwydd ddwywaith yn ddiweddarach.

Fe wnaeth drawsnewid seremonïau'r Orsedd drwy gyflwyno Dawns y Blodau ac elfennau eraill o'r seremonïau.

"Yng Ngorsedd Gyhoeddi Machynlleth, 1936 y gwelwyd hi gyntaf a gellir ei phriodoli i ddychymyg y Cofiadur, Cynan ac athrawesau ysgolion cynradd y fro," meddai gwefan Amgueddfa Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Cynan ar faes yr Eisteddfod yn 1963 gyda'r bardd coronog Tom Parry Jones

Eto ar wefan Amgueddfa Cymru, dywedir: "Dywed Ernest Roberts iddo droi'r Orsedd 'o fod yn rhyw bantomeim o weinidogion ac eraill i fod yn basiant urddasol'; ac 'o fod yn destun gwawd a chwerthin i fod yn sefydliad a ddenodd ysgolheigion Cymraeg a gwŷr proffesiynol o lawer cylch i dderbyn eu hanrhydeddu ac i gefnogi ei dibenion.'"

Mae llawer o sylw i wisgoedd yr Orsedd hefyd. Mae'r rheiny yn deillio o swydd yr Arwyddfardd, a ddatblygodd yn y 19eg Ganrif i ofalu am ddodrefn a regalia'r Orsedd a helpu gyda'r seremonïau.

Yn ôl Amgueddfa Cymru T.H. Thomas, Arlunydd Pen-y-garn, a'r Arwyddfardd rhwng 1895-1915 a ddylanwadodd fwyaf ar seremonïau'r Orsedd fel rydyn ni'n eu handabod heddiw drwy drawsnewid y gwisgoedd a regalia'r Orsedd a Chylch yr Orsedd.

Wrth i'r archdderwydd newydd ddechrau ar ei swydd yn Eisteddfod Sir Conwy 2019, tybed a fydd yna newid arall yn yr 21ain Ganrif?

Hefyd o ddiddordeb: