Cais i osod mwy o fastiau ffôn yn Eryri i wella signal
- Cyhoeddwyd
Fe allai mwy o fastiau gael eu hadeiladu yn Eryri mewn ymgais i wella signal ffôn yn yr ardal.
Mae pum cais wedi'u cyflwyno i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, gan gynnwys un mast 40 metr o uchder ym Moel Friog, Ganllwyd.
Dywedodd y Swyddfa Gartref y byddai rhywfaint o "effaith weledol" ond y byddai'r mast "yr uchder lleiaf posib".
Pwrpas y mastiau fyddai gwella signal i'r gwasanaethau brys, ond byddai modd eu gwneud ar gael i'r cyhoedd hefyd.
Mae cwmni EE wedi gwneud cais am bedwar mast, oll rhwng 10 a 17 metr o uchder.
Fe fyddai'r rheiny wedi'u lleoli yn Aberangell, Bodowen, Maentwrog a Minffordd, gyda'r pwrpas o wella signal i'r cyhoedd yn ogystal â'r gwasanaethau brys.
Mae disgwyl i awdurdod y parc cenedlaethol wneud penderfyniad ynglŷn â'r pum mast dros yr wythnosau nesaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd14 Medi 2017