Rhes o dai yn Ystalyfera yn 'debygol o gael eu dymchwel'

  • Cyhoeddwyd
Heol Cyfyng, Ystalyfera
Disgrifiad o’r llun,

Mae pryderon o hyd ynghylch sefydlogrwydd yr ardal o amgylch Heol Cyfyng

Mae deg teulu o Gwm Tawe, gafodd eu gorfodi i adael eu tai oherwydd pryderon diogelwch, yn debygol o wynebu gorchymyn dymchwel yn y flwyddyn newydd.

Roedd rhaid i drigolion rhes o dai ar Heol Cyfyng ym Mhant-teg ger Ystalyfera adael eu cartrefi ym mis Awst 2017, yn dilyn pryderon fod y tir yno wedi symud ac y gallai tirlithriad ddigwydd.

Dywedodd arweinydd cyngor Castell-nedd Port Talbot bod adroddiad terfynol yn cael ei gyhoeddi dros yr wythnosau nesaf, ac mae disgwyl iddo gadarnhau'r ardaloedd sydd dal mewn peryg.

Ychwanegodd Rob Jones: "Byddwn yn parhau i drafod gyda'r perchnogion a'r cwmnïau yswiriant er mwyn canfod yr ateb gorau, ond ni allaf ddiystyru'r posibilrwydd y gallai'r deg adeilad ar Heol Cyfyng gael eu dymchwel am resymau diogelwch.

"Mae'n opsiwn i ni, ac i fod yn onest mae'n ymddangos fel mai dyma'r ateb fwyaf tebygol i broblem Heol Cyfyng."

Yn gynharach eleni fe wnaeth rhai o'r trigolion herio'r penderfyniad i'w symud allan o'u tai, ond cafodd y cais ei wrthod.

Cafodd Amanda Hopkins a'i theulu eu symud i lety dros dro wedi'r tirlithriad, er ei bod hi dal i dalu am forgais ar ei thŷ gwag ar Heol Cyfyng.

"Mae hi wedi bod yn 16 mis o limbo. Dwi ddim eisiau dychmygu be fydd yn digwydd nesaf. Dwi ddim yn siŵr os fyddai'n rhentu neu'n ceisio cael morgais arall. Fedrwch chi ddim gwneud unrhyw gynlluniau."

Ychwanegodd: "Mae dymchwel y tai wedi cael ei grybwyll fel opsiwn, ond mae'n rhaid i ni dderbyn y penderfyniad. Bydd rhaid aros i weld cynnwys yr adroddiad terfynol."

Dywedodd y cyngor fod y teuluoedd a gafodd eu symud yn gymwys i dderbyn iawndal, a bod Mr Jones yn bwriadu trefnu taliad i'r teuluoedd gafodd eu heffeithio cyn y Nadolig.