Tinitws: 'Angen diogelu rhag lefelau sŵn uchel'

  • Cyhoeddwyd
Nathaniel Ernest
Disgrifiad o’r llun,

Mae Nathaniel Ernest wedi dioddef gyda'r cyflwr ers yn 18 oed

Mae arbenigwr ar glyw yn rhybuddio y dylai pobl sy'n mynychu cyngherddau a gwyliau cerddorol fod yn ymwybodol o lefelau sŵn uchel.

Dywed Sonja Jones, sy'n awdiolegydd, ei bod yn hynod o bwysig i bobl wisgo offer amddiffyn clyw mewn cyngherddau.

Mae tua un ym mhob deg o bobl yn y DU, tua chwe miliwn, o bobl yn dioddef o tinitws.

Un sydd wedi dioddef o'r cyflwr ers pan yn 18 oed yw Nathaniel Ernest, sy'n 26 oed ac yn aelod o'r band Breichiau Hir.

Dywedodd Nathaniel o Gaerdydd iddo fynd i gyngerdd gyda ffrind, ac yna iddo ddod allan gyda sŵn yn ei glustiau.

Roedd hyn wedi digwydd iddo o'r blaen, ond y tro hwn doedd y sŵn ddim yn diflannu.

Dywedodd Nathaniel: "Fe wnaeth y sŵn ddiflannu o glustiau fy ffrind ond ddim o 'nghlustiau i.

"Ar ôl tua blwyddyn rwy'n meddwl ei fod o'n barhaol," meddai.

Ffynhonnell y llun, The Shoot/Libertino Records
Disgrifiad o’r llun,

Mae Nathaniel wedi gwneud i aelodau eraill Breichiau Hir wisgo plygiau clustiau wrth ymarfer neu'n perfformio

Beth yw Tinitws?

  • Tinitws yw'r disgrifiad o lle mae rhywun yn clywed sŵn yn y glust sydd ddim yn dod o ffynhonnell allanol;

  • Fel rheol mae tinitws yn cael ei gysylltu â cholli clyw oherwydd heneiddio neu lefelu sŵn uchel, ond fe allai fod oherwydd symptomau eraill;

  • Mae tua 6 miliwn o bobl â chyflwr tinitws;

  • Dros gyfnod o amser mae pobl yn gallu mynd drwy broses lle mae'r ymennydd yn gallu rhwystro sŵn tinitws.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Sonja Jones, sy'n awdiolegydd, ei bod yn hynod o bwysig i bobl wisgo offer amddiffyn clyw mewn cyngherddau

Dywedodd Sonja Jones: "Byddai gwisgo offer amddiffyn y clust yn eich diogelu ac fe allai rwystro niwed.

"I ddweud y gwir fe allwch glywed y gerddoriaeth yn well os yw'r plygiau clust gyda ffilter.

"Mae pâr o'r rhain yn costio 'r un faint â thrip i'r sinema. Dyw e ddim yn ddrud."

Ychwanegodd fod yna agwedd ymhlith rhai bod gwisgo plygiau clust "ddim yn cŵl."

"Ond dyw hi ddim yn cŵl chwaith dioddef niwed o ganlyniad i gerddoriaeth uchel."

Disgrifiad o’r llun,

Mae plygiau clust tebyg i'r rhain yn cynnwys ffilter

Cyfrifoldeb y rhai sy'n mynychu cyngherddau yw i ddiogelu eu clyw, ond mae rhai lleoliadau yng Nghymru yn cynnig offer diogelwch.

Ymhlith y rhain mae'r Motorpoint Arena, a Tramshed yng Nghaerdydd a Venue Cymru yn Llandudno.

Dywed Stadiwm Principality, lle wnaeth 300,000 o bobl fynychu cyngherddau yn 2018, eu bod yn "cydymffurfio â'r canllawiau presennol."