Symud pont hanesyddol yn Abertawe er mwyn ei hadfer

  • Cyhoeddwyd
CraenFfynhonnell y llun, Cyngor Abertawe

Mae pont hanesyddol yn Abertawe wedi cael ei symud ddydd Sul er mwyn cael ei hadfer.

Roedd y gwaith paratoi wedi dechrau ers wythnosau cyn i bont wrthbwys Glandŵr ger Stadiwm Liberty gael ei symud, fel un darn, am 13:00.

Bu dros 20 o weithwyr, craen 53 metr o uchder a lori yn sicrhau'r symudiad.

Bydd y bont 70 tunnell yna'n cael ei hasesu a'i hadfer cyn cael ei hail-osod y flwyddyn nesaf.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Cyngor Abertawe

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Cyngor Abertawe

Cafodd y bont restredig Gradd II ei hadeiladu yn 1909 er mwyn cryfhau diwydiant copr Abertawe gan ddarparu cyswllt rheilffordd rhwng y gweithfeydd ac ardal Morfa.

Mae'r bont wedi bod ar gau i'r cyhoedd ers 1999 oherwydd pryderon diogelwch.

Bu rhai ffyrdd ar gau yn ystod y gwaith a dywedodd y cyngor y bydd llwybrau dargyfeirio a cheidwaid traffig yn helpu gyrwyr.