Teyrngedau i'r cynhyrchydd radio Elwyn Jones

  • Cyhoeddwyd
Elwyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Elwyn Jones oedd yn gyfrifol am yr adran gynhyrchu pan grëwyd rhaglenni megis C'mon Midffild, Ribidires, Ar y Marc a Pupur a Halen

Yn 82 oed bu farw Elwyn Jones, fu'n gyfrifol am gyfresi radio C'mon Midffild a nifer o raglenni poblogaidd eraill.

Roedd Elwyn yn enedigol o bentref Ponciau ger Wrecsam.

Wedi graddio ym Mangor bu'n weinidog gyda'r Annibynwyr yn Ynys-y-bwl (1960-66) ac yna yn Radnor Walk, Chelsea (1966-73).

Ymuno ag adran grefydd y BBC wnaeth Elwyn gyntaf, ac yna fe ddaeth yn gyfrifol am adran gynhyrchu Radio Cymru ym Mangor.

Elwyn Jones oedd yn gyfrifol am yr adran gynhyrchu pan grëwyd rhaglenni megis C'mon Midffild, Ribidires, Ar y Marc a Pupur a Halen.

Bu hefyd yn cynhyrchu Canllaw - rhaglen a roddai gyngor ar amrywiaeth o bynciau i bobl oedrannus a phobl anabl.

'Bachgen diymhongar'

Wrth ei gofio dywedodd cyn-bennaeth BBC Bangor, R Alun Evans, nad oedd yn syndod bod rhaglen fel Canllaw "wedi mynd â bryd Elwyn Jones gan ei fod yn ddyn â chydwybod cymdeithasol gref iawn".

"Roedd e'n ffrind coleg i mi, a dwi'n ei gofio fel bachgen diymhongar," meddai.

"Doedd e ddim syndod o gwbl i mi fod Elwyn wedi gweithio am flynyddoedd lawer gyda'r Samariaid - dyna'r math o berson oedd e."

Bu'n wirfoddolwr diflino i'r Samariaid yng ngogledd Cymru am ddegawdau.

'Un o'r rhai anwylaf dan haul'

Dywedodd Aled Jones, cyn-gydweithiwr i Elwyn a chynhyrchydd Galwad Cynnar: "Roedd Elwyn yn graig, yn deg ac yn solet fel cymeriad ac mae yna amryw yn ddyledus iddo yn bersonol ac yn broffesiynol.

"Roedd yn ddarlledwr oedd yn cyflawni gweledigaeth glir."

Un arall fu'n cydweithio ag ef oedd Ifan Roberts, ddywedodd: "Yn ogystal â bod yn eithriadol o drylwyr fel cynhyrchydd mi oedd ganddo galon fawr ac yn un o'r rhai anwylaf dan haul, yn ogystal â bod yn bregethwr da iawn."

Dywedodd golygydd presennol Radio Cymru, Rhuanedd Richards: "Roedd Elwyn yn daer dros ddarlledu, yn frwdfrydig ei gefnogaeth a'i anogaeth i bawb ond yn onest ac yn deg ei farn yr un pryd.

"Mae pawb rydw i'n dod ar eu traws yn ei gofio gan werthfawrogi ei gefnogaeth iddynt.

"Roedd yn un o'r bobl hynny oedd yn allweddol yn sefydlu Radio Cymru ac yn llywio'r darlledu o Fangor am flynyddoedd lawer. Rydym yn naturiol yn cydymdeimlo gyda'r teulu."

Mae'n gadael gwraig, Bethan, a phedwar o blant.