Pryderon am gynllun delio â cyffuriau yn Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae yna bryderon yn Wrecsam nad yw'r tasglu gafodd ei ffurfio i ddelio â'r defnydd o'r cyffur Spice ar strydoedd y dref bellach yn weithredol.
Yn ystod 2017 cafwyd sylw eang i luniau o bobl gysglyd ar strydoedd y dre, wedi honiadau eu bod wedi cymryd y cyffur.
O ganlyniad daeth sefydliadau megis Cyngor Sir Wrecsam, Heddlu Gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr at ei gilydd i ffurfio cynlluniau a fyddai'n lleddfu'r sefyllfa - yn eu plith darparu man gofal lle gallai pobl gael cymorth llety ac adferiad ar frys.
Mae adroddiad yn nodi bod cryn ganmoliaeth i'r cynllun ond ym mis Ebrill cafodd y gwaith ei drosglwyddo i Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Wrecsam.
Dywedodd dirprwy arweinydd Cyngor Sir Wrecsam, Hugh Jones, nad oedd yna fwriad i'r bartneriaeth wreiddiol fod yn barhaol.
Amheuon am ei dyfodol
Ond mae'r Aelod Seneddol lleol Ian Lucas wedi mynegi pryderon am allu'r bartneriaeth newydd i wneud y gwaith, gan leisio ofnau am brofiad y grŵp i ddelio ag ymddygiad gwrth-gymdeithasol.
Mewn llythyr at ddirprwy arweinydd y cyngor sir mae'n codi amheuon a fydd y bartneriaeth yn gallu parhau â'r gwaith.
Dywedodd: "Wedi'r Etholiad Cyffredinol ym Mehefin 2017 gofynnais i'r cyngor lleol am ymateb brys i'r problemau yng nghanol y dref, a dyna arweiniodd at y bartneriaeth wreiddiol a oedd yn ei hadnabod fel y grŵp aur.
"Dwi'n poeni petai'r grŵp aur yn uno â Phartneriaeth Diogelwch Cymunedol Wrecsam na fydd y gwaith o adnabod a chadw llygad ar y materion y mae'r grŵp aur wedi delio â nhw yn digwydd.
"Sylwaf nad yw Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Wrecsam yn cynnwys yr AS, AC na'r Ganolfan Gofal Cymunedol ac er bod adroddiad diweddar yn nodi bod y bartneriaeth newydd yn bwriadu ehangu ei haelodau, dydy o ddim yn nodi sut."
Cafodd yr adroddiad ei ddosbarthu i gynghorwyr Wrecsam yn ddiweddar.
Mae'r adroddiad yn canmol gwaith y grŵp aur gwreiddiol o ostwng camddefnydd o gyffuriau a nodir hefyd bod ymddygiad gwrth-gymdeithasol wedi gostwng 42%.
Nodir bod trefi a dinasoedd eraill sy'n wynebu problemau tebyg wedi bod yn gweld y cynllun ar waith.
Dywedodd Hugh Jones, y cynghorydd sydd hefyd yn gyfrifol am faterion cymunedol, partneriaethau, diogelwch cyhoeddus a chymunedol, mai bwriad partneriaethau fel y grŵp aur oedd delio â materion byr dymor, ac mai gwaith partneriaid eraill oedd delio â materion wedi hynny.
'Dyletswydd eraill yw parhau â'r gwaith'
"Bydd y gwersi a ddysgwyd gan y grŵp aur yn cael eu hymgorffori i'r gwaith a fydd yn cael ei wneud gan y bartneriaeth newydd," meddai.
"Roedd pob aelod o'r grŵp aur yn gwbl ymwybodol o'r newidiadau ac roedd y llythyron a dderbyniasont yn nodi y byddai'r gwaith a wnaed gan y grŵp aur yn parhau.
"Bydd Mr Lucas yn parhau i gael gwybodaeth am y datblygiadau."
Ychwanegodd y Cynghorydd Jones: "Rwy'n croesawu y pwyslais mae Mr Lucas wedi ei roi ar y gwaith hwn a byddaf yn sicrhau bod gweithgareddau'r dyfodol yn cael eu datblygu'n strategol ac yn gyfrifoldeb Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Wrecsam.
"Felly os bydd angen gweithredu uwch ar y mater hwn neu unrhyw fater arall cysylltiedig a diogelwch cymunedol bydd disgwyl i bob partner weithredu'n addas er mwyn sichrau ymateb brys."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2017