McEvoy dan ymchwiliad am ymddygiad 'bygythiol' honedig
- Cyhoeddwyd
Mae'r AC Neil McEvoy dan ymchwiliad am ymddygiad "bygythiol" honedig mewn ffrae ynglŷn â phryder am les plentyn o Gaerdydd mewn cartref gofal.
Mae AC Canol De Cymru a chynghorydd ardal Tyllgoed ar Gyngor Caerdydd wedi cael ei gyhuddo o dorri cod ymddygiad y cyngor, a bydd yn gorfod ymddangos o flaen pwyllgor safonau a moesoldeb.
Mae'r honiadau yn erbyn Mr McEvoy yn ymwneud â'i ymddygiad mewn dadl ynglŷn â honiadau o gam-drin plentyn mewn cartref gofal.
Dywedodd Mr McEvoy mai dyma'r "achos gwaethaf i mi ddod ar ei draws mewn 30 mlynedd", ac mae'n gwadu'r honiadau yn ei erbyn.
Mae'r gwleidydd yn galw i'r pwyllgor gael ei gynnal yn gyhoeddus, a dywedodd ei bod yn "syfrdanol" bod y ffocws arno ef o ystyried difrifoldeb yr honiadau gan y plentyn.
'Tanseilio' staff
Mae'r cwynion yn erbyn Mr McEvoy yn dyddio 'nôl i Ebrill a Mai 2018, pan wnaeth yr AC ofyn i'r cartref gofal os allai ymweld â'r plentyn am iddi gael ei honni ei fod wedi dweud wrth ei rieni ei fod wedi cael ei gam-drin.
Mae dau o'r cwynion yn ymwneud â bod Mr McEvoy wedi mynnu ei fod yn cael ymweld â'r cartref gofal, a'i fod wedi galw'r heddlu i ymchwilio i les y plentyn wedi i'r cartref wrthod ei gais.
Does dim modd enwi'r cartref gofal oherwydd rhesymau cyfreithiol.
Mae adroddiad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn cynnwys honiadau bod Mr McEvoy wedi bod yn "anodd, bygythiol, ac wedi tanseilio" aelod o staff wnaeth ei gyhuddo o fwlio.
Ond mae ffynhonnell sy'n agos at deulu'r plentyn wedi amddiffyn Mr McEvoy, gan ddweud mai ceisio darganfod cyflwr y plentyn oedd y cynghorydd.
Mae trydydd cwyn yn ymwneud ag ymweliad gan Mr McEvoy a thad y plentyn i bencadlys y cwmni oedd yn darparu gofal y plentyn.
Dywedodd y ffynhonnell sy'n agos at y teulu bod y darparwr wedi gwrthod cynnal cyfarfod gyda Mr McEvoy, er bod tad y plentyn eisiau iddo fod yno.
McEvoy eisiau 'atebolrwydd'
Dywedodd Mr McEvoy: "Dyma'r achos gwaethaf i mi ddod ar ei draws mewn 30 mlynedd, felly rwy'n siarad am y peth.
"Rydw i eisiau i'r mater gael ei glywed yn gyhoeddus am 'mod i eisiau i bobl wybod pa mor ddrwg yw hyn. Rydw i eisiau atebolrwydd gan yr ombwdsmon.
"Mae'n syfrdanol bod y plentyn yn dweud bod hyn wedi digwydd ac mae'r ffocws arna i."
Dywedodd yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus nad oedd yn ymchwilio i unrhyw honiadau yn erbyn Mr McEvoy, ond ei fod wedi pasio adroddiad ynglŷn ag ef ymlaen at bwyllgor safonau a moesoldeb Cyngor Caerdydd.
Bydd pwyllgor safonau a moesoldeb Cyngor Caerdydd yn ystyried adroddiad yr ombwdsmon ym mis Medi ac yn penderfynu a oes angen cymryd y mater ymhellach.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2018